Grŵp Celf Beca
Roedd Beca yn grŵp o artistiaid a oedd yn cydweithio yng Nghymru ar ddiwedd y saithdegau a thrwy'r wythdegau. Deilliodd yr enw o hanes Helyntion Beca, 1839 - 1844.
Roedd celf Beca yn weledigaeth o gelf weledol Gymreig, wedi ei llunio drwy ddealltwriaeth o werth yr iaith Gymraeg ac yn ymwneud â materion cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol Cymru. Ffurfiwyd y grŵp gan yr artist Paul Davies a'i frawd Peter Davies, er mwyn codi ymwybyddiaeth genedlaethol o werth celf weledol yn yr 20fed ganrif yng Nghymru. [1]
Roedd diwedd y saithdegau a'r wythdegau yn gyfnod o ddeffroad ym myd celf weledol yng Nghymru. Roedd ymgyrch losgi tai haf Meibion Glyndŵr ar ei hanterth ac fe ddatblygodd cred o'r newydd mewn celf weledol ‘Gymreig’. Sefydlwyd nifer o fudiadau a chymdeithasau i annog creu a llwyfannu celfyddyd weledol Gymreig. Un o'r mudiadau yma oedd Beca. Mae rhai o ddarnau cyntaf y brodyr a gafodd eu cyflwyno yn enw Beca yn ymateb uniongyrchol i ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr. Roedd yn agwedd newydd tuag at gelf yr 20fed ganrif yng Nghymru. [2]
Fe gafodd celf Grŵp Beca gryn sylw yn dilyn perfformiad Paul Davies yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977. Digwyddodd y perfformiad y tu allan i’r Pafiliwn Celf a Chrefft (Lle Celf) ble roedd arddangosfa o waith gan Joseph Beuys a sawl artist rhyngwladol arall. Cododd Paul Davies ddarn o hen sliper rheilffordd efo’r llythrennau WN arno uwch ei ben. Roedd yn protestio ac yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd yr Eisteddfod wedi gwahodd artistiaid o Gymru i arddangos hefyd .[3][4] . Yn dilyn y perfformiad ymunodd yr artist Ivor Davies efo'r brodyr. Yna ymunodd mwy o artistiaid a oedd yn rhannu'r un weledigaeth fel Pete Telfer, Sian Parri, Iwan Bala, Peter Finnemore, Tim Davies a pharhaodd i dyfu drwy gyswllt artistiaid.
Cynhaliwyd arddangosfa o waith artistiaid grŵp Beca yn 1988. Trefnwyd yr arddangosfa 'Ystad Cymru' i gydfynd efo Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd. Roedd yn arddangosfa gydweithredol rhwng aelodau Beca, Gweled ac Ymddiriedolaeth Cerfluniau Cymru. Cafodd rhai o ddarnau cydweithredol Beca eu harddangos ar draws ewrop. Cymerodd y grŵp dueddiadau a genres rhyngwladol au cymhwyso i gyd-destun Cymreig Cymru. Roedd dylanwadwyd artistiaid y grŵp yn amrywiol ac yn cynnwys Arte Povera, Fluxus a Swrealaeth. [5] Defnyddiodd y grŵp gymysgedd o fynegiant artistig, gan gynnwys gosod, paentio, cerflunio a pherfformio, gan ymgysylltu â materion iaith, yr amgylchedd a hawliau tir.Mae hanes y grŵp wedi ennill cryn barch o dan ailasesiadau ôl-fodern.
Nid mudiad ffurfiol oedd Beca ond cyswllt rhwng artistiaid, o gefndiroedd amrywiol, oedd yn deall gwerth yr iaith a'r genedl Gymraeg. Roedd artistiaid Beca yn annog y weledigaeth drwy greu a chyd-greu celf Gymreig a'i gyflwyno yn enw Beca. Fe lwyddodd y mudiad ddod â gwleidyddiaeth heriol yn rhan o gelf weledol Cymru. Paul Davies oedd prif gyswllt y grŵp ac roedd marwolaeth sydun Paul Davies yn ergyd i'r grŵp. Ond mae gweledigaeth Paul a Peter a gwaith Beca wedi parhau yn fyw yng ngwaith artistiaid Cymru.
Mae Gwobr Ifor Davies yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi parhau i annog artistiaid greu celf yn ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant,a gwleidyddiaeth Cymru (Celf Beca). Fe drefnwyd arddangosfa 'pop up' o waith Beca yn 2018 yn Oriel Storiel Bangor, gan yr artist Sara Rhoslyn Moore a gafodd ei hysbrydoli gan yr hanes. Yn 2023 cyflwynodd Sian Parri hanes Celf Beca, i blant ysgolion Llŷn ac Eifionydd . Roedd Sian yn un o aelodau cynharaf Beca a'i gwaith 'Gwreiddiau Ymwybod' yn rhan o arddangosfa 'Ystad Cymru' 1988. Fe greodd y plant Gelf Beca newydd a cafodd ei gyflwyno yn enw Beca ar stondin Celf Beca, yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Art in Wales: Politics of Engagement or Engagement with Politics?". artcornwall.org. Cyrchwyd 23 October 2010.
- ↑ "Art in Wales: Politics of Engagement or Engagement with Politics?". artcornwall.org. Cyrchwyd 23 October 2010.
- ↑ http://www.artcornwall.org/features/Iwan_Bala_Art_in_Wales.htm
- ↑ https://www.walesartsreview.org/wales-the-artist-and-society-the-legacy-of-beca/
- ↑ "Re Inventing Reinvention" (PDF). iwanbala.com. 2 March 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 July 2011. Cyrchwyd 23 October 2010.