Iwan Bala
Arlunydd o Gymru ydy Iwan Bala (ganed 13 Mai 1956, Sarnau, Bala[1]). Magwyd yng Ngwyddelwern, a mynychodd ysgolion y Sarnau, Gwyddelwern a'r Berwyn. Fe astudiodd daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth[1] ond yn 1990 bu'n artist preswyl yn Oriel Genedlaethol Zimbabwe yn Harare, dychwelodd yno yn 1993 i gyflwyno rhaglen deledu ar y celfyddydau, Delweddau Zimbabwe.[2] Enillodd M.A. celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Caerdydd yn 1993.[1][3]
Iwan Bala | |
---|---|
Iwan Bala (chwith) gyda John Cale (2009) | |
Ganwyd | 13 Mai 1956 Sarnau |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, llenor |
Gwobr/au | Medal Aur |
Mae ei waith yn ymwneud â thirwedd diwylliant, cof a dychymyg.[2][4] Enillodd sawl gwobr gan gynnwys Medal Aur am Gelfyddyd Gain yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1997, a Medal Owain Glyndŵr yn 1998, i gydnabod ei gyfraniad nodedig i'r celfyddydau yng Nghymru.[1][2][3]
Bu'n gweithio'n rhan amser dros Cywaith Cymru i geisio hybu'r celfyddydau yn y gymuned; mae nawr yn ddarlithydd celf yng Nholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae enghreifftiau o'i waith i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, yn y Tabernacl, Machynlleth ac yn yr Amgueddfa Ymerodrol yn Llundain.[1][3]
Llyfryddiaeth
golygu- Intimate Portraits, 1995 (Seren)
- Welsh Art Goes International, 1996 (Planet)
- Welsh Painters Talking, 1997 (Seren)
- Appropriate Behaviour, 1997 (Planet)
- Cyfres o draethodau a gomisiynwyd gan Planet, 1998
- Darllen Delweddau, 2000 (Gwasg Carreg Gwalch)
- Certain Welsh Artists, 1999 (Seren)
- here+now, 2004 (Seren)
- Groundbreaking, 2005 (Seren)
- Hon, Ynys y Galon, 2007 (Gwasg Gomer)
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu