Grace and Frankie

Mae Grace and Frankie yn gyfres gomedi Americanaidd a ffrydiwyd am y tro cyntaf ar Netflix ar 8 Mai, 2015.[1] Crëwyd y gyfres gan Marta Kauffman a Howard J. Morris, ac yn serennu mae Jane Fonda a Lily Tomlin fel Grace a Frankie.

Grace and Frankie
Genre Comedi
Crëwyd gan Marta Kauffman
Howard J. Morris
Serennu Jane Fonda
Lily Tomlin
Sam Waterston
Martin Sheen
Brooklyn Decker
Ethan Embry
June Diane Raphael
Baron Vaughn
Cyfansoddwr y thema Grace Potter and the Nocturnals
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 7
Nifer penodau 94
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 25-32 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Netflix
Rhediad cyntaf yn 8 Mai, 2015 - presennol
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Fe'i hadnewyddwyd gan Netflix am ail gyfres ar 26 Mai, 2015.[2] Mae wedi bod ar gael ar Netflix ers 6 Mai 2016.[3]

Ar 10 Rhagfyr 2015, cyhoeddwyd y byddai'r rhaglen yn dychwelyd am drydedd gyfres.[4]

Mae'r gyfres yn dilyn Grace, mogwl cosmetigau sydd wedi ymddeol, a Frankie, athrawes gelf hipi. Mae eu gwŷr yn gyfreithwyr ysgariad llwyddiannus yn San Diego. Troir eu bywydau wyneb i waered pan mae Robert a Sol yn cyhoeddi eu bod yn caru ei gilydd ac wedi penderfynu i adael eu gwragedd. Nawr, y merched, sydd erioed wedi bod yn rhy hoff o'u gilydd, yn gorfod byw yn yr un tŷ ac yn cefnogi ei gilydd wrth iddynt symud ymlaen i bennod newydd yn eu bywydau.

Prif gast

golygu
  • Jane Fonda fel Grace Hanson; mogwl cosmetigau sydd wedi ymddeol.
  • Lily Tomlin fel Frankie Bergstein; athrawes gelf hipi.
  • Sam Waterston fel Sol Bergstein; cyfreithiwr ysgariad llwyddiannus.
  • Martin Sheen fel Robert Hanson; cyfreithiwr ysgariad llwyddiannus.
  • Brooklyn Decker fel Mallory Hanson; merch iau Grace a Robert, mae hi'n briod gyda dau o blant ac yn wraig tŷ.
  • Ethan Embry fel Coyote Bergstein; mab mabwysiedig Frankie a Sol, athro cyflenwi sydd hefyd yn gaeth i gyffuriau.
  • June Diane Raphael fel Brianna Hanson; merch Grace a Robert, pennaeth cwmni a sefydlwyd gan Grace.
  • Baron Vaughn fel Nwabudike "Bud" Bergstein; mab mabwysiedig Frankie a Sol, sydd yn gyfreithwir ei hunan.

Sêr gwadd

golygu
  • Geoff Stults fel Mitch, gŵr Mallory sydd yn gweithio fel doctor.[5]
  • Mary Kay Place fel Amanda, un o ffrindiau hynaf Frankie a Sol.
  • Joe Morton fel Jason, un o ffrindiau hynaf Frankie and Sol.[5]
  • Ernie Hudson fel Jacob, cariad i Frankie.[6]
  • Christine Lahti fel Lydia Foster, chwaer Robert a ffrind agos i Grace.
  • Craig T. Nelson fel Guy, ffrind coleg anturiaethus i Robert a chariad i Grace.
  • Nicholas D'Agosto fel Dutch, cariad Brianna.
  • Ernie Hudson fel Jacob, cariad Frankie.
  • Peter Cambor fel Barry, cariad Brianna.
  • Tim Bagley fel Peter, un o ffrindiau Robert a Sol.
  • Michael Gross fel Jeff, un o ffrindiau Robert a Sol.
  • Carrie Preston fel Krystle, mam fiolegol Coyote.
  • Estelle Parsons fel Babe, ffrind tymor hir i Grace a Frankie.
  • Sam Elliott fel Phil Milstein, cariad Grace.
  • Swoosie Kurtz fel Janet, un o ffrindiau agos Grace.
  • Marsha Mason fel Arlene, un o ffrindiau agos Grace.
  • Rita Moreno fel cymydog Lucy, Robert a Sol.
  • Amy Madigan fel Elaine, gwraig Phil.
  • Jai Rodriguez fel Jojo, nyrs Robert yn yr ysbyty.
  • Conchata Ferrell fel Mam-gu Jean, mam yng nghyfraith Mallory.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Jane Fonda and Lily Tomlin Back Together Again in "Grace and Frankie," A New Original Comedy Series on Netflix". The Futon Critic. March 19, 2014. Cyrchwyd 30 Awst, 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  2. "'Grace And Frankie' Renewed For Season 2 By Netflix". Deadline.com. 26 Mai, 2015. Cyrchwyd 19 Mai, 2015. Check date values in: |accessdate=, |date= (help)
  3. de Moraes, Lisa (January 17, 2016). "Netflix Unveils Premiere Dates For 'Orange Is The New Black,' 'The Get Down,' 'Flaked' And Others". Deadline.com. Cyrchwyd January 17, 2016.
  4. Wagmeister, Elizabeth (December 10, 2015). "Netflix Renews 'Grace and Frankie' for Season 3". Variety.com. Cyrchwyd January 12, 2016.
  5. 5.0 5.1 Goldberg, Lesley (22 Awst, 2014). "Joe Morton, Geoff Stults Join Netflix's 'Grace and Frankie'". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 30 Awst, 2014. Check date values in: |accessdate=, |date= (help)
  6. "Ernie Hudson Boards 'Hot In Cleveland' & 'Grace And Frankie'". Deadline.com. 26 Medi, 2014. Cyrchwyd 1 Hydref, 2014. Check date values in: |accessdate=, |date= (help)