Jane Fonda
Mae Jane Fonda (ganed Lady Jayne Seymour Fonda;[1] 21 Rhagfyr 1937) yn actores, ysgrifenwraig, actifydd gwleidyddol, cyn-fodel ffasiwn a gwrw ffitrwydd o'r Unol Daleithiau. Mae wedi ennill Gwobr yr Academi dwywaith, ac yn 2014, derbyniodd wobr gan y Sefydliad Ffilmiau Americanaidd am yr hyn mae wedi cyflawni yn ystod ei bywyd.
Jane Fonda | |
---|---|
Ganwyd | Jane Seymour Fonda 21 Rhagfyr 1937 Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, llenor, actor llwyfan, model, actor, cynhyrchydd ffilm, actor teledu, hunangofiannydd, actor llais |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Henry Fonda |
Mam | Frances Ford Seymour |
Priod | Roger Vadim, Tom Hayden, Ted Turner |
Partner | Richard Perry |
Plant | Vanessa Vadim, Troy Garity, Mary Williams |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y 'Theatre World', Neuadd Enwogion California, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr Crystal, Commandeur des Arts et des Lettres, Golden Globes, Gwobr Emmy, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr 100 Merch y BBC, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Hasty Pudding Woman of the Year, Producers Guild Stanley Kramer Award |
Gwefan | https://www.janefonda.com |
Gwnaeth Fonda ei debut ar Broadway yn y ddrama 1960 There Was a Little Girl, a fe'i henwebwyd am ddwy Wobr Tony, a gwnaeth ei debut ar y sgrin yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn yn Tall Story. Daeth yn amlwg ar ôl ymddangos mewn ffilmiau yn y 1960au, megis Period of Adjustment (1962), Sunday in New York (1963), Cat Ballou (1965), Barefoot in the Park (1967) a Barabella (1968). Ei gŵr cyntaf, Roger Vadim, oedd cyfarwyddwr Barbarella. Yn ystod ei gyrfa, mae wedi derbyn saith enwebiad am Wobr yr Academi, gyda'r cyntaf yn dod am ei pherfformiad yn They Shoot Horses, Don't They (1969), ac aeth yn ei blaen i ennill dwy Oscar yr Actores Orau yn y 1970au am Klute (1971) a Coming Home (1978). Fe'i henwebwyd hefyd am Julia (1977), The China Syndrome (1979), On Golden Pond (1981) a The Morning After (1986). Mae ei gwobrau eraill yn cynnwys Gwobr Emmy am y ffilm deledu 1984 The Dollmaker, dwy Wobr BAFTA am Julia a The China Syndrome a phedair Gwobr Golden Globe.
Yn 1982, rhyddhaodd ei fideo ymarfer corff cyntaf, Jane Fonda's Workout, ac aeth y fideo ymlaen i werhtu'n dda. Ef oedd y cyntaf o 22 fideo ymarfer corff a rhyddhawyd dros y 13 mlynedd nesaf, a gwerthodd dros 17 miliwn o gopïau. Yn 1991, ail-briododd Fonda i'w thrydydd gŵr, mogwl y cyfryngau, Ted Turner, wedi iddi ysgaru o'i ail ŵr Tom Hayden. Ar ôl ysgaru o Turner yn 2001, daeth yn ôl i actio wedi saib o 15 mlynedd gyda'r ffilm gomedi Monster in Law. Ers hynny, mae wedi ymddangos yn Georgia Rule (2007), The Butler (2013) a This Is Where I Leave You (2014). Yn 2009, dychwelodd i Broadway ar ôl 45 mlynedd yn y ddrama 33 Variations, a fe'i henwebwyd am Wobr Tony am y perfformiad, yn ogystal â dau enwebiad Gwobr Emmy am ei rôl gylchol yn y gyfres ddrama HBO The Newsroom (2012-2014). Rhyddhaodd pum fideo ymarfer corff arall rhwng 2010 a 2012. Yn ddiweddar mae wedi bod yn serennu yn y gyres Grace and Frankie (2015) ar Netflix.
Roedd Fonda yn actifydd gwleidyddol amlwg yn y cyfnod gwrth-ddiwylliant yn ystod Rhyfel Fietnam ac yn ddiweddar mae wedi ymgyrchu dros eiriolaeth i ferched. Tynnwyd ffotograff enwog a dadleuol ohoni yn eistedd ar gurfa wrth-awyren pan yn ymweld â Hanoi yn 1972. Mae hefyd wedi protestio yn erbyn Rhyfel Irac a thrais yn erbyn merched, ac yn disgrifio ei hunan fel ffeminydd. Yn 2005, cyd-sefydlodd Fonda, ynghyd â Robin Morgan a Gloria Steinem Canolfan y Cyfryngau i Ferched, sefydliad sy'n gweithio i fwyhau lleisiau merched yn y cyfryngau trwy eiriolaeth, hyfforddi yn y cyfryngau ac arweinyddiaeth, a chreu cynnwys gwreiddiol. Mae Fonda ar fwrdd y sefydliad ar hyn o bryd. Rhyhaodd hunangofiant yn 2005, yn ogystal â chofiant yn 2012, o'r enw Prime Time.
Ffilmyddiaeth
golyguFfilmiau
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1960 | Tall Story | Mehefin Ryder | |
1962 | Walk on the Wild Side | Kitty Twist | |
1962 | The Chapman Report | Kathleen Barclay | |
1962 | Period of Adjustment | Isabel Haverstick | Enwebwyd-Gwobr Golden Globe am Actores Orau - Ffilm Sioe Gerdd neu Gomedi Enwebwyd-Gwobr Laurel am Berfformiad Comedi Gorau gan Ferch |
1963 | In the Cool of the Day | Christine Bonner | |
1963 | Sunday in New York | Eileen Tyler | |
1964 | Joy House | Melinda | |
1964 | Circle of Love | Sophie | |
1965 | Cat Ballou | Catherine 'Cat' Ballou | |
1966 | The Chase | Anna Reeves | |
1966 | The Game Is Over | Reneen Saccard | |
1966 | Any Wednesday | Ellen Gordon | |
1967 | Hurry Sundown | Julie Ann Warren | |
1967 | Barefoot in the Park | Corie Bratter | |
1968 | Spirits of the Dead | Contessa Frederica | |
1968 | Barbarella | Barabella | |
1969 | They Shoot Horses, Don't They? | Gloria Beatty | |
1971 | Klute | Bree Daniels | |
1972 | Tout Va Bien | Suzanne | |
1973 | Steelyard Blues | Iris Caine | |
1976 | The Blue Bird | The Night | |
1977 | Fun with Dick and Jane | Jane Harper | |
1977 | Julia | Lillian Hellman | |
1978 | Coming Home | Sally Hyde | |
1978 | Comes a Horseman | Ella Connors | |
1978 | California Suite | Hannah Warren | |
1979 | The China Syndrome | Kimberly Wells | |
1979 | The Electric Horseman | Alice 'Hallie' Martin | |
1980 | Nine to Five | Judy Bernly | |
1981 | On Golden Pond | Chelsea Thayer Wayne | |
1981 | Rollover | Lee Winters | |
1985 | Agnes of God | Dr. Martha Livingston | |
1989 | The Old Gringo | Harriet Winslow | |
1990 | Stanley & Iris | Iris Estelle King | |
2005 | Monster-in-Law | Viola Fields | |
2012 | All Together | Jeanne | |
2012 | Peace, Love and Misunderstanding | Grace | |
2013 | The Butler | Nancy Reagan | |
2014 | Better Living Through Chemistry | Cwsmer yn y fferyllfa | |
2014 | This Is Where I Leave You | Hillary Altman | |
2015 | Youth | Brenda More | |
2015 | Fathers and Daughters | ||
2015 | Crystal |
Teledu
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
1961 | A String of Beads | Gloria Winters | Ffilm deledu |
1973 | A Doll's House | Nora Helmer | Ffilm deledu |
1982 | 9 to 5 | O'Neil | Pennod: "The Security Guard" |
1984 | The Dollmaker | Gertie Nevels | Ffilm deledu |
2012-2014 | The Newsroom | Leona Lansing | Rôl cylchol |
2014 | The Simpsons | Maxine Lombard (llais) | Pennod: "Opposites A-Frack" |
2015 | Grace and Frankie | Grace Hanson | Prif gast; hefyd yn uwch gynhyrchydd |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Jane Fonda Profile". Turner Classic Movies.