Grand Canyon
Saif y Grand Canyon (sef 'Y Ceunant Mawr') yng ngogledd talaith Arizona yn yr Unol Daleithiau. Fe'i ffurfiwyd gan afon Colorado yn erydu'r creigiau i greu hafn enfawr, tua 435 km o hyd a rhwng 15 a 29 km o led.
Math | ceunant |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Grand Canyon National Park |
Sir | Arizona |
Gwlad | UDA |
Gerllaw | Afon Colorado |
Cyfesurynnau | 36.0975°N 112.0953°W |
Hyd | 277 milltir |
Statws treftadaeth | America's Most Endangered Historic Places, National Treasure |
Manylion | |
Roedd Parc Cenedlaethol y Grand Canyon yn un o barciau cenedlaethol cynharaf yr Unol Daleithiau, diolch yn rhannol i ymdrechion yr Arlywydd Theodore Roosevelt. Mae'r Grand Canyon yn atynfa fawr i dwristiaid, yn enwedig ar ei ochr ddeheuol, y South Rim. Ar 21 Mawrth 2007, agorwyd y Grand Canyon Skywalk, pont wydr sydd 1200 medr uwch y ddaear.