Grand Theft Auto: Llundain 1961

Pecyn Estyn Grand Theft Auto # 2:

Llundain 1961

Datblygwr Rockstar Canada
Cyhoeddwr Gemau Rockstar
Cyfarwyddwr Greg Bick
Cynhyrchwyr
  • Dan Houser
  • Lucien King
Dylunwyr
  • Greg Bick
  • Sergei Kuprejanov
  • Blair Renaud
Rhaglennydd
  • Kevin Hoare
  • Gary J. Foreman
Artistiaid
  • Ray Larabie
  • Adam Holbrough
  • Pete Armstrong
Awdur Dan Houser
Cyfres Grand Theft Auto
Llwyfan Microsoft Windows
Rhyddhau
  • Byd : 1 Mehefin 1999
Genre Antur
Modd Chwaraewr sengl, Cyd-chwarae

Pecyn ehangu ar gyfer gêm Grand Theft Auto 1 a Grand Theft Auto: Llundain 1969 yw Grand Theft Auto, Llundain 1961 sy'n cynnwys tasgau ychwanegol i chware fel estyniad i'r gemau gwreiddiol. Dyma'r drydydd teitl yn y gyfres Grand Theft Auto. Roedd gêm Llundain 1969 ar gael i nifer o wahanol systemau ond rhyddhawyd Llundain 1961 ar gyfer y cyfrifiadur yn unig. Roedd ar gael am ddim i'w lawr lwytho o wefan Rockstar[1]. I chware'r gêm mae'n rhaid cael copïau o GTA 1 a GTA Llundain 1969 ar y cyfrifiadur.

Fel y pecyn estyniad cyntaf mae Llundain 1961 yn defnyddio'r un injan chware a GTA 1. Fel mae'r enw yn awgrymu lleoliad y gêm yw Llundain wyth mlynedd cyn gêm 1969 ac mae'n adrodd stori ragflaenol yr un cymeriadau. Mae'r pecyn yn cynnwys chwe thasg newydd, 22 cerbyd newydd a gêm cyd-chwarae newydd Deathmatch sy'n cael ei leoli ar fap sy'n seiliedig ar ddinas Manceinion. Prif nodwedd newydd y gêm yw'r defnydd gyntaf yn y gyfres o'r gallu i saethu gwn wrth yrry cerbyd.[2]

Gan fod y gêm yn defnyddio'r un trac sain a Llundain 1969 mae'r holl ganeuon ar y radio yn rai a gyhoeddwyd ar ôl 1961.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rockstar GTA London adalwyd 05/06/2018
  2. GTA Wikia Grand Theft Auto London 1961 adalwyd 05/06/2018