Grand Theft Auto (gêm)

Mae Grand Theft Auto (sy'n cael ei adnabod, yn aml, wrth ei dalfyriad GTA) yn gêm fideo antur a ddatblygwyd gan gwmni DMA Design yn yr Alban.[1] Cafodd ei ryddhau ar gyfer systemau MS-DOS, Microsoft Windows a Mac OS ym mis Hydref 1997, ac ar gyfer y PlayStation ym mis Chwefror 1998. Dyma'r bennod wreiddiol a roddodd ei enw i'r gyfres eiconig o gemau fidio Grand Theft Auto[2].

Grand Theft Auto
Clawr y gêm
Datblygwr DMA Design  

Tarantula Studios (GBC)

Cyhoeddwr Windows , MS-DOS
  • UE: BMG Interactive
  • Gog America:
    ASC Games
  • Byd: Rockstar Games

PlayStation

  • PAL: BMG Interactive
  • Gog America:
    Take-Two Interactive

Game Boy Color

  • Byd: Rockstar Games
Cyfarwyddwr Keith R. Hamilton
Cynhyrchydd David Jones
Dylunwyr
  • Stephen Banks
  • Paul Farley
  • Billy Thomson
Rhaglennydd Keith R. Hamilton
Artist Ian McQue
Awduron
  • Brian Baglow
  • Brian Lawson
Cyfansoddwyr
  • Colin Anderson
  • Craig Conner
  • Grant Middleton
Cyfres Grand Theft Auto
Llwyfanau
  • MS-DOS
  • Microsoft Windows
  • PlayStation
  • Game Boy Color
Rhyddhau Hydref 1997
Genre Antur
Modd Chwaraewr sengl

Cyd-chwarae

Wrth chware'r gêm bydd chwaraewr yn rheoli cymeriadau sydd a'u pryd ar ladrata arfog wrth deithio trwy ddinas mewn gwahanol gerbydau.

Cafodd y gêm ei ailgyflwyno ar gyfer y teclyn Game Boy Color ym mis Tachwedd 1999.

Chware'r gêm golygu

Mae Grand Theft Auto yn cynnwys chwe lefel sydd wedi eu lleoli mewn tair dinas. Ym mhob lefel, prif amcan y chwaraewr yw ennill y nifer targed o bwyntiau, a gyflawnir fel arfer trwy berfformio tasgau ar gyfer syndicadau troseddol y ddinas. Mae pob lefel yn cynnwys set unigryw o dasgau mae'n rhaid i'r chwaraewr eu cyflawni. Mae pob lefel yn cael ei gychwyn mewn blwch ffôn.[3] Mae cwblhau tasg yn llwyddiannus yn gwobrwyo'r chwaraewr gyda phwyntiau ac yn agor y cyfle i ymdopi â thasgau anoddach ar gyfer gwobrau uwch, tra bod methiant yn dyfarnu llai o bwyntiau ac yn gallu cael gwared am byth ar gyfleoedd i gaffael rhagor o dasgau. Mae cwblhau tasgau hefyd yn cynyddu "lluosydd" y chwaraewr, sy'n cynyddu'r pwyntiau y mae'r chwaraewr yn cael am wneud tasgau newydd. Pan fydd y chwaraewr yn cyrraedd y sgôr targed (sy'n dechrau ar $ 1,000,000, ond syn mynd yn uwch wrth i'r gêm datblygu), mae'r bennod nesaf yn cael ei datgloi.[3]

Gall y chwaraewr ennill pwyntiau ychwanegol trwy achosi marwolaeth a dinistrio ceir. Mae hefyd yn gallu dwyn a gwerthu ceir am elw. Er mwyn cyrraedd y targed ariannol sydd ei angen i gwblhau lefel, bydd chwaraewyr fel arfer yn dewis cwblhau o leiaf rai o'r tasgau er mwyn adeiladu ei luosydd fel bod y troseddau yn talu mwy. Mae gan rai gweithredoedd troseddol lluosydd cynhenid; er enghraifft, mae defnyddio car heddlu i redeg dros bobl yn dyblu'r nifer o bwyntiau a dderbynnir. Os caiff y chwaraewr ei arestio yna mae ei luosydd yn cael ei haneru. Yn wahanol i gemau eraill yn y gyfres, gellir lladd y chwaraewr, neu ei "wastraffu", efo un ergyd os nad oes ganddo arfau corff. Os caiff y chwaraewr ei wastraffu yna bydd yn colli bywyd. O gael ei arestio neu ei ladd bydd y chwaraewr yn colli ei arfau. Os caiff y chwaraewr ei wastraffu gormod o weithiau bydd rhaid ailgychwyn y lefel.

Hyd yn oed yn ystod y tasgau mae peth rhyddid gan y chwaraewr gan ei fod yn rhydd i ddewis y llwybr i'w gymryd, ond mae'r cyrchfan, fel arfer, yn cael ei osod. Y lefel hon o ryddid oedd yn gosod Grand Theft Auto ar wahân i gemau cyfrifiadurol antur eraill oedd ar gael ar y pryd.[4] Roedd fersiwn cyfrifiadur yn caniatáu cyd chware dros y we trwy ddefnyddio protocol IPX.[5] Rhaid cwblhau ambell i dasg er mwyn datgloi rhai lleoliadau.

Lleoliadau golygu

Mae Grand Theft Auto wedi ei leoli mewn tair dinas yn y flwyddyn 1997. Mae'r dinasoedd yn seiliedig ar leoliadau go iawn:

Mae'r tair dinas yn dioddef o dan bla o droseddau a llygredd. Maent yn enwog am drais, lladrata arfog llofruddiaeth a rhyfela cyson rhwng gwahanol gangiau'r dinasoedd. Mae'r dinasoedd hefyd yn nodedig am lygredd eu heddluoedd a'u harweinwyr dinesig.

Yn amlwg, mae Grand Theft Auto: Llundain 1969, a Grand Theft Auto: Llundain 1961 wedi eu lleoli yn Llundain. Mae Grand Theft Auto 2 wedi ei leoli rhywle yn America'r dyfodol[6]. Mae pob un o'r gemau eraill yn y gyfres yn dychwelyd i un o'r dinasoedd gwreiddiol. Liberty City yw lleoliad Grand Theft Auto III, Grand Theft Auto Advance, Grand Theft Auto: Liberty City Stories, a Grand Theft Auto IV. Vice City yw lleoliad Grand Theft Auto: Vice City a Grand Theft Auto: Vice City Stories. Mae San Andreas yn cael ei ehangu o ddim ond dinas San Francisco i fod yn dalaith seiliedig ar rannau o California a Nevada ac yn lleoliad ar gyfer Grand Theft Auto: San Andreas a Grand Theft Auto V.

Plot golygu

Liberty City golygu

Gangsta Bang[7] golygu

Mae'r gêm yn dechrau yn Liberty City. Mae'r chwaraewr yn gweithio ar gyfer gang sy'n cael ei arwain gan Robert "Bubby" Seragliano. Mae rhaid i'r chwaraewr i gwblhau nifer o dasgau ar gyfer Bubby. Mae'r tasgau yn cynnwys dwyn tacsis lladd pennaeth heddlu'r ddinas trwy osod bom yn ei gar, gosod bom ar fws bydd yn chwythu os yw'n mynd islaw 50 m.y.a. yn ogystal â llofruddio cyfreithiwr Gang Sonetti. Wedi i'r chwaraewr ennill digon o bwyntiau, mae Cabot, rhaglaw Don Sonetti, yn cysylltu â'r chwaraewr i ddweud bod o am gael gair gydag ef. Yn y cyfarfod, mae Cabot yn rhybuddio'r chwaraewr os bydd yn croesi Sonetti eto bydd yn cael ei ladd. Mae'r gêm yn symud ymlaen i'r ail lefel.

Heist Allmighty golygu

Unwaith eto, rhaid i'r chwaraewr wneud sawl dasg i gwblhau'r lefel. Mewn galwad ffôn mae Bubby yn dweud bod "Sasha" wedi cael ei herwgipio (bydd methu'r dasg yn datgelu mai ci bach y pennaeth yw Sasha). Unwaith y bydd y chwaraewr cyflawni ei dasgau, gan gynnwys lladd Sonetti, ac mae ganddo ddigon o bwyntiau eto, bydd Bubby yn gofyn i'r chwaraewr ddod i'w weld. Bydd Bubby yn dweud bod y chwaraewr wedi gwneud gwaith da, ond bod yr heddlu yn dangos gormod o ddiddordeb yn y gang bellach. Mewn ymdrech i gael gwared â sylw'r heddlu heb mae Bubby am i'r chwaraewr mynd ar awyren i San Andreas.

San Andreas golygu

Mandarin Mayhem golygu

Wedi cyrraedd San Andreas, bydd Uncle Fu, arweinydd gang Tsieineaidd yn cysylltu â'r chwaraewr, ac mi fydd yn dechrau gweithio iddo. Mae'n rhaid gwneud 18 o dasgau i Fu ac ennill dros $2,000,000. Mae'r tasgau yn cynnwys symud ceir o amgylch y ddinas, casglu arian diogelwch gorfodol, dial ar un o elynion y gang trwy osod bom yn ei gar a chanfod twrnai cyn iddo gyflawni hunan laddiad. Unwaith y bydd y chwaraewr yn gwneud digon o waith ac wedi cael digon o bwyntiau, bydd yn ymweld â'r hen ddyn. Mae'n dweud ei fod am adeiladu syndicâd trosedd o faint anferthol, a bod cymorth y chwaraewr wedi anrhydeddu ei deulu.

Tequila Slammer golygu

Mae'r chwaraewr yn mynd ymlaen i weithio i El Burro (yr asyn). Mae El Buro yn arweinydd gang o Mecsicanwyr, bydd angen gwneud 16 tasg iddo ac ennill $3,000,000. Mae'r tasgau mae gofyn i'r chwaraewr cyflawni yn cynnwys defnyddio saethwr roced i ddinistrio bysus sy'n dod a ffoaduriaid o Fecsico a chael gwared ar griw teledu sydd wedi llwyddo i dynnu lluniau o un o'i droseddau. Wedi i'r chwaraewr cyflawni digon o dasgau ac ennill digon o arian bydd El Buro yn cynnig dangos iddo pam bod ganddo'r llys enw yr asyn. Mae'r chwaraewr yn penderfynu ffoi am Vice City.

Vice City golygu

Bent Cop Blues golygu

Heddwas llwgr o'r enw Samuel Deever yw boss newydd y chwaraewr. Mae'n rhaid i'r chwaraewr cyflawni 16 o dasgau i Deever ac ennill $3,000,000. Mae'r tasgau yn cynnwys derbyn llwgrwobrwyon gan heddweision eraill, sicrhau bod lladron yn rhoi siâr o'u troseddau i Deever a chosbi'r rhai sy'n gwrthod yn ogystal â llofruddio'r Brif Foneddiges. Wedi cyflawni'r tasgau a chyrraedd y targed ariannol bydd Deever yn cyfarfod a'r chwaraewr a'i gyhuddo o weithio tu nol i'w gefn gan hynny, mae eu cydweithrediad wedi dod i ben

Rasta Blasta golygu

Mae'r chwaraewr bellach yn mynd i weithio i'r Brawd Marcus (sydd weithiau yn gwisgo dillad merched ac yn cael ei hadnabod wrth yr enw y Chwaer Elisha). Mae Marcus / Elisha yn rhedeg gang o Americanwyr Affricanaidd sy'n rheoli'r fasnach cyffuriau yn y ddinas. Mae gan Marcus 12 tasg i'w cyflawni, mae'r rhan fwyaf yn ymwneud â lladd ei elynion. Wedi cyflawni'r tasgau a chasglu $5,000,000 mae'r gêm ar ben.

Cyfeiriadau golygu

  1. "The quintessentially Scottish studio behind Grand Theft Auto". i News. 5 Hydref 2016. Cyrchwyd 5 Mehefin 2018.
  2. Stephen McGinty (20 September 2013). "Grand Theft Auto V: Scottish game conquering world". scotsman.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 September 2013. Cyrchwyd 13 October 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 "The complete history of Grand Theft Auto". Gamesradar. Future. 25 April 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 December 2015. Cyrchwyd 28 July 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. Mac Donald, Ryan (6 May 1998). "Grand Theft Auto Review". GameSpot. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 April 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. DMA Design (1997). Grand Theft Auto PC Edition Manual. Take Two Interactive. t. 4.
  6. "GTA2 – Individual Police Files". Rockstar Games. Cyrchwyd 29 April 2007.
  7. "Missions in Grand Theft Auto 1". GTA WIKI. Cyrchwyd 05/06/2018. Check date values in: |access-date= (help)