Milwr o Gymru oedd Syr Gregory Sais neu Grigor Sais (bu farw 1390) a fu'n ymladd dros frenin Lloegr yn y Rhyfel Can Mlynedd ac yn yr Alban. Roedd yn frodor o Sir Fflint ac yn ôl pob tebyg yn fab i Cynwrig Sais ap Ithel Fychan, ac felly'n ddigynnydd i Ednyfed Fychan. Fel yn sawl enghraifft arall mewn enwau personol o'r cyfnod, e.e. y bardd Elidir Sais, mae'r llysenw "Sais" yn cyfeirio at y ffaith ei fod yn medru'r Saesneg yn hytrach na'i fod yn Sais.

Gregory Sais
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Bywgraffiad

golygu

Ceir y cofnod cyntaf amdano fel milwr pan ddisgrifir ef fel capten Beaumont-le-Vicomte ym Maine yn 1360. Ym mis Mawrth 1373, roedd yn aelod o fyddin Seisnig oedd yn ceisio codi gwarchae Chizé yng ngorllewin Ffrainc, ond gorchfygwyd hwy gan fyddin Ffrengig oedd yn cynnwys Owain Lawgoch. Dano ef y cafodd Owain Glyndŵr ei brofiad milwrol cyntaf, fel aelod o garsiwn Berwick-upon-Tweed yn 1384.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. A. D. Carr, "A Welsh Knight in the Hundred Years War: Sir Gregory Sais", Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1977), tt. 40-53.

Dolenni allanol

golygu