Agor y brif ddewislen

Bardd o Wynedd a flodeuai ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg oedd Elidir Sais (fl. 1195 - 1246). Cyfyng iawn yw ein gwybodaeth amdano. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu'n gryf ei fod yn perthyn i deulu barddol Meilyr Brydydd ac yn frodor o Fôn.

Elidir Sais
Ganwyd 1190 Edit this on Wikidata
Bu farw 1240 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth Bardd Edit this on Wikidata

LlawysgrifauGolygu

Ceir y testun cynharaf o un o'r cerddi yn Llawysgrif Hendregadredd gyda chopi arall ynghyd â phump testun ychwanegol yn Llyfr Coch Hergest. Mae'r gweddill i'w cael mewn sawl llawysgrif arall, y bwysicaf ohonyn nhw yn llaw John Davies o Fallwyd (17g).

HanesGolygu

Mae'n bur debyg fod Elidir yn fab i Walchmai ap Meilyr ac felly bod Meilyr Brydydd yn daid iddo. Os felly y bu, byddai'n frawd i'r beirdd Meilyr ap Gwalchmai ac Einion ap Gwalchmai. Cysylltir y teulu dysgedig hyn, yr enghraifft bwysicaf o deulu barddol yng nghyfnod Beirdd y Tywysogion, â thiroedd etifeddol yn ardal Trefeilyr a lleoedd eraill yng nghwmwd Malltraeth (cantref Aberffraw) a chwmwd Menai (cantref Rhosyr).

Mae'r enghreifftiau cymharol brin o'r llysenw 'Sais' yn y cyfnod yn golygu rhywun a fedrai siarad rhywfaint o Saesneg neu wedi ymweld â Lloegr (does dim tystiolaeth fod Elidir wedi mynd i Loegr fel cennad i dywysog Gwynedd).

CerddiGolygu

Mae deg o gerddi Elidir Sais wedi goroesi. Mae pump ohonyn nhw yn awdlau i Dduw. Ceir tair marwnad ganddo, un i Hywel ab Arthen (uchelwr lleol o ardal Meisgyn, Morgannwg), un arall i Rhodri ab Owain Gwynedd, ewythr Llywelyn Fawr, ac un anghyffredin iawn i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn, a Thegwaredd ab Iarddur gyda'i gilydd. Canodd fawl i Dafydd ab Owain Gwynedd, ail ewythr Llywelyn, sy'n awgrymu iddo gael ei noddi gan y tywysog hwnnw a'i frawd Rhodri cyn i Lywelyn sefydlu ei awdurdod yng Ngwynedd. Yn olaf ceir dadolwch (cerdd o gynghor) i Lywelyn ab Iorwerth ei hun.

LlyfryddiaethGolygu