Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans

System o gyfeirnodau grid daearyddol a ddefnyddir yng ngwledydd Prydain, sy'n wahanol i hydred a lledred, yw'r system cyfeirio Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans.

Sgwâr grid TF, sy'n dangos Y Wash a Môr y Gogledd ynghyd â llefydd yn siroedd Swydd Lincoln, Caergrawnt a Norfolk.

Crëwyd y system hon gan yr Arolwg Ordnans, ac fe'i defnyddir yn aml er mwyn dadansoddi'u data ymchwil, ac wrth ddiweddaru a chreu mapiau (naill ai gan yr Arolwg Ordnans neu drydydd barti) sy'n seiliedig ar yr arolygon hyn. Dyfynnir cyfeirnodau gridiau yn aml hefyd gan gyhoeddiadau a ffynonellau o ddata eraill, megis arweinlyfrau neu ddogfennau cynllunio i'r llywodraeth.

Mae llawer o systemau'n bodoli, ac maent yn gallu darparu cyfeirnodau gridiau am leoliadau yn Ynysoedd Prydain: mae'r erthygl hon yn disgrifio'r system a grëwyd i Brydain Fawr a'r ynysoedd sydd ar ei hymyl yn benodol (gan gynnwys Ynys Manaw); system debyg a ddefnyddir yn Iwerddon ydy'r system gyfeirnodau gridiau Iwerddon, a grëwyd gan Arolwg Ordnans Iwerddon ar gyfer yr ynys ei hunan. Defnyddir system gyfesur Universal Transverse Mercator (UTM) er mwyn darparu cyfeirnodau gridiau i leoliadau byd-eang, a dyma'r system a ddefnyddir ar gyfer Ynysoedd y Sianel. Mae asiantau Ewrop hefyd yn defnyddio'r system honno wrth fapio lleoliadau, ac ambell waith defnyddient systemau o gyfeirnodau grid milwrol (MGRS) amrywiol.

Dolenni allanol golygu