J. Gwynn Williams
Hanesydd ac academydd o Gymru oedd John Gwynn Williams, CBE (1924 – 4 Hydref 2017).[1]
J. Gwynn Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1924 Llanfechain |
Bu farw | 4 Hydref 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd |
Cyflogwr | |
Cysylltir gyda | Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru |
Priod | Beryl Stafford Williams |
Plant | Griff Rowland |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGanwyd yn Llanfechain ym Mhowys, yn unig fab i'r gweinidog Wesleaidd John Elis Williams a'i wraig Maude (gynt Rowlands). Mynychodd ysgol sir Treffynnon yn Sir y Fflint, a gwasanaethodd yn y Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, astudiodd Japaneg yn SOAS, Llundain, a graddiodd mewn hanes o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.[2]
Gyrfa
golyguDaeth yn bennaeth ar yr adran hanes ac yn Athro Hanes Cymru o 1963 hyd ei ymddeoliad ym 1983.[1] Cafodd ei benodi'n is-brifathro CPGC, Bangor ym 1974, ac ymddiswyddodd o'r swydd hon ym 1979 yn sgil anghytuno â'r Prifathro Syr Charles Evans dros ddisgyblu myfyrwyr a oedd yn ymgyrchu dros y Gymraeg.[2] Roedd Gwynn Williams hefyd yn llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gadeirydd Gwasg Prifysgol Cymru, yn aelod o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac yn is-lywydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.[1]
Ysgrifennodd hanes swyddogol Bangor ar ganmlwyddiant y coleg, ac hanes Prifysgol Cymru mewn dwy gyfrol.
Bywyd personol
golyguPriododd y nofelydd Beryl Stafford Williams, a chawsant tri mab, William, Guto a Tomos. Bu farw J. Gwynn Williams yn 93 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Colli un o hoelion wyth Hanes Cymru[dolen farw]", Prifysgol Bangor (13 Hydref 2017). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2017.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Geraint Jenkins. "Gwynn Williams obituary", The Guardian (6 Rhagfyr 2017). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2017.