Griffith Hughes
naturiaethwr
Naturiaethwr ac awdur o Gymru oedd y Parchedig Griffith Hughes (yn ei anterth rhwng 1707 - 1758) a sgwennodd The Natural History of Barbados sy'n cynnwys y disgrifiad ysgrifenedig cyntaf o'r grawnffrwyth. Canodd y biolegydd Swedaidd Carolus Linnaeus ei glodydd yn fawr, ond mynnodd eraill mai twyllwr ydoedd.
Griffith Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 1707 Tywyn |
Bu farw | 1758 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | naturiaethydd |
Blodeuodd | 1707 |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Bywgraffiad
golyguFe'i ganwyd yn 1707 yn fab i Edward a Bridget Hughes o Dywyn[1]. Aeth i Goleg Sant Ioan, Rhydychen ym 1729 a'i ordeinio yn Llundain yn 1732. Bu'n reithor yn Pennsylvania a Barbados. Nid oes sôn amdano ar ôl 1758.