Grawnffrwyth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Sapindales
Teulu: Rutaceae
Genws: Citrus
Rhywogaeth: C. × paradisi
Enw deuenwol
C. × paradisi
Macfad.

Coeden isdrofannol sitrws ac arni ffrwyth ydy grawnffrwyth (Sa: grapefruit) sy'n tarddu o ynys Barbados (ble roeddent ers talwm wedi'u gwahardd)[1] ac ynysoedd eraill. Rutaceae ydy'r enw Lladin ar y teulu hwn o blanhigion. Yn Sbaeneg, defnyddir yr enwau toronja neu pomelo.

Mae'r goeden hon, fel arfer, yn tyfu i fod rhwng 5-6 metr o uchder, er y gall rhai ohonyn nhw fod cymaint â 13–15 m (43-49 troedfedd). Dail gwyrdd tywyll, hir, tenau tua 150mm (neu chwe modfedd) sydd ganddi a blodau 5 cm (2 fodfedd) gwyn gyda phedair petal ar bob un. Melyn i oren ydy'r ffrwyth, gyda diametr o 10–15 cm. Mae'r tu fewn i'r ffrwyth (sef y 'mwydion') o liwiau gwahanol hefyd, gan gynnwys gwyn, pinc a choch o felyster gwahanol.

Yn 1929 rhoddwyd breinlen (neu patent) am y tro cyntaf ar rawnffrwyth newydd.[2]

Grawnffrwyth o ardal Califfornia (UDA)

Yn y 19g y daeth y ffrwyth yn boblogaidd; cyn hynny planhigyn ornamental ydoedd. Dros nos, tyfodd UDA i fod y prif gynhyrchwr ffrwythau'r grawnffrwyth gyda perllannoedd yn Fflorida, Texas, Arizona a Califfornia.

Hanes y planhigyn

golygu

Cofnodwyd bodolaeth y ffrwyth am y tro cyntaf mewn unrhyw iaith gan y Cymro Y Parchedig Griffith Hughes yn 1750 a oedd yn disgrifio sawl math o'r teulu yn Barbados.[3] Heddiw, gelwir y ffrwyth yn "un o Saith Rhyfeddod Barbados" [4] Fe'i datblygodd fel hybrid o'r pomelo (Citrus maxima) gyda'r orennau melys (Citrus sinensis). Dyma'r geiriad fel y'i gwelwyd yn y Guradian: The process follows similar fruity "marriages", such as the accidental crossing of a pomelo fruit from the East Indies with a Jamaican orange in 1693, which gave the world the grapefruit.[5] Yn 1823 y cyrhaeddodd Fflorida, diolch i Odette Philippe. Mae croesi'r ffrwyth hwn hefyd wedi creu y math a elwir yn "tangel" (1905), y "minneola" (1931), a'r "sweetie" (1984).

Rhinweddau meddygol

golygu

Dywedir fod rhannau o'r goeden yn cynnwys elfennau rhinweddol a all gynorthwyo i wella blinder meddwl.

Grawnffrwyth a statinau

Gofynnodd Patrick Barkham pam fod gwerthiant grawnffrwythau cymaint ar drai? Rydw'i yn amau bod yr ateb yn syml. Mae'r ffrwyth wedi ei wahardd i'r miliynnau ohonom syd yn cymryd statinau at y colesterol[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dowling, Curtis F.; Morton, Julia Frances (1987). Fruits of warm climates. Miami, Fla: J.F. Morton. ISBN 0-9610184-1-0URL. OCLC 16947184
  2. Texas grapefruit history Archifwyd 2010-11-28 yn y Peiriant Wayback, TexaSweet. Retrieved 2008-07-02.
  3. World Wide Words: Questions & Answers; Grapefruit. Gwefan Saesneg
  4. Barbados Seven Wonders: The Grapefruit Tree. Gwefan Saesneg
  5. Erthygl Saesneg o'r enw "Apple and grape give birth to Grapple"
  6. Paul Harris London Guardian 15 Gorff 2011

Gweler hefyd

golygu
Chwiliwch am grawnffrwyth
yn Wiciadur.
  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato