Rhaglen gyfrifiadurol rhwydweithio geogymdeithasol sydd wedi'i anelu at ddynion cyfunrywiol a deurywiol ydy Grindr. Caiff ei defnyddio ar declynnau iOS, Blackberry OS ac Android. Gellir ei lawrlwytho o "App Store" Apple a Google Play yn rhad ac am ddim a hefyd fel fersiwn y gellir tanysgrifio iddo (Grindr Xtra). Defnyddia'r rhaglen geoleoliad y ddyfais, sy'n galluogi defnyddwyr i leoli dynion eraill yn y cyffiniau. Gwneir hyn trwy ryngwyneb defnyddiwr sy'n arddangos grid o luniau o'r dynion gerllaw, wedi'u trefnu o'r dynion agosaf i'r dynion pellaf i ffwrdd. Bydd tapio ar lun yn arddangos proffil cryno ar gyfer y defnyddiwr hwnnw, yn ogystal â'r opsiwn i sgwrsio, danfon lluniau a rhannu eich lleoliad eich hun.

Grindr
Datblygwr Nearby Buddy Finder, LLC.
Rhyddhawyd 25 Mawrth, 2009
Sefydlwyd Los Angeles, Califfornia
Systemau gweithredu Apple iOS, Android a Blackberry OS
Genre Rhwydweithio geogymdeithasol
Gwefan Grindr.com
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: rhwydweithio geogymdeithasol o'r Saesneg "geosocial networking". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.