Grwpiau ethnig yn Affganistan

Mae ethnigrwydd a llwythyddiaeth yn agweddau hynod o bwysig ym mywyd cymdeithasol a gwleidyddol Affganistan, sydd yn cynnwys ugeiniau o wahanol grwpiau ethnig. Mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn Fwslimiaid, ond maent yn siarad nifer fawr o ieithoedd gwahanol. Uned sylfaenol y gymdeithas yw'r qawm, sef grŵp ar sail carennydd, pentref, llwyth, neu ethnigrwydd, neu ryw gyfuniad unigryw o'r rhain.[1] Gellir hefyd rhannu grwpiau ethnig Affganistan yn llwythau a chlaniau, sef y grwpiau ceraint sydd yn hawlio llinach o un hynafiad cyffredin. ar ochr y tad; a'r grwpiau eraill nad ydynt yn haeru achyddiaeth gyffredin, ond yn hytrach yn uniaethu â nodweddion eraill megis iaith, crefydd, neu drigfan.[2]

Mae'r gybolfa ethnig unigryw ar draws Affganistan yn ganlyniad i hanes hir a chythryblus y wlad, a'i safle ynysedig ond strategol bwysig yng Nghanolbarth Asia. Ers diwedd Oes yr Efydd, os nad cyn hynny, cyrhaeddai pobloedd newydd o'r gogledd a'r gorllewin, yn bennaf, gan ddod â'u hieithoedd a'u harferion diwylliannol i'r ardal. Byddai'r grwpiau hyn yn aml yn cyfuno â'r bobl a oedd wedi eu hymsefydlu'n barod yn y dyffrynnoedd a'r trefi, neu weithiau yn eu dadleoli. Ynyswyd cymunedau eraill, yn enwedig yn y dwyrain, gan dirwedd arw a mynyddig y wlad, gan ddiogelu'r rheiny rhag cyrchoedd milwrol a thra-arglwyddiaeth allanol. Mae hanes traddodiadol a mythau cenhedlig yr amryw grwpiau ethnig yn adlewyrchu'r ymfudiadau hyn. Clywir am goncwerwyr hynafol yn rhoi'r tir yn etifedd i'w disgynyddion, am y cyndadau ar ffo yn ceisio lloches yn y mynyddoedd, ac am nomadiaid a ffermwyr yr oesoedd o'r blaen yn chwilota am borfeydd a thiroedd amaeth newydd.[3]

Ni chynhaliwyd cyfrifiad gwladol yn Affganistan ers 1979, ac hwnnw oedd yr unig cyfrifiad yn hanes y wlad. O'r herwydd, nid oes ystadegau manwl am y boblogaeth ar gael, sefyllfa a waethygwyd gan y dinistr a'r ymfudiadau torfol a achoswyd gan y rhyfeloedd di-baid ers 1979, yn ogystal â'r ymchwydd poblogaeth ers diwedd Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan ym 1989. Mae union niferoedd y grwpiau ethnig yn ansicr felly, ond yn gyffredinol amcangyfrifir bod y Pashtun yn cyfri am ddwy ran o bump o'r boblogaeth. y Tajiciaid am chwarter, yr Hazara a'r Wsbeciaid am 9 y cant yr un, a'r r Aimaq a'r Tyrcmeniaid am 4 y cant yr un, a'r gweddill yn llai na 5 y cant o'r boblogaeth.

Y prif grwpiau ethnig yn Affganistan
Grŵp ethnig Nifer yn ôl cyfrifiad 1979
Pashtun 7,000,000
Tajiciaid 3,500,000
Hazara 1,500,000
Wsbeciaid 1,300,00
Aimaq 800,000
Farsiwan (Heratiaid) 600,000
Tyrcmeniaid 300,000
Brahui 200,000
Baluchi 100,000
Nuristaniaid 100,000

Ffynonellau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Thomas Barfield, Afghanistan: A Cultural and Political History (Princeton, New Jersey: Princeton University Press, 2010), t. 18.
  2. Barfield, Afghanistan (2010), t. 22.
  3. Barfield, Afghanistan (2010), tt. 19–20.

Llyfryddiaeth golygu

  • Thomas Barfield, Afghanistan: A Cultural and Political History (Princeton, New Jersey: Princeton University Press, 2010).
  • Shaista Wahab a Barry Youngerman, A Brief History of Afghanistan (Efrog Newydd: Facts On File, 2007).