Perthynas rhwng bodau dynol yn seiliedig ar linach teuluol, hynny yw drwy perthynas waed a phriodas, yw carennydd. Gelwir grŵp cymdeithasol o aelodau teuluol yn grŵp ceraint. Y teulu niwclear yw'r grŵp ceraint sylfaenol, ac ar ei ffurf leiaf gall gynnwys dau berson yn unig, megis cwpl heb blant neu riant sengl ac unig blentyn. Mae grwpiau ceraint mwy o faint yn cynnwys y teulu estynedig, bandiau, claniau, a llwythau.[1]

Carennydd
Mathinterpersonal relationship Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gelwir perthynas glos iawn heb sail deuluol neu briodasol yn garennydd gwneud.

Geirdarddiad golygu

Daw'r gair Cymraeg "carennydd" neu "cerennydd" o'r gwraidd Indo-Ewropeg karantįio-m.[2] Yn ôl y diffiniad traddodiadol mae'r gair yn disgrifio perthynas deuluol hyd y nawfed ach, yn ôl Cyfraith Hywel Dda:[3]

  1. tad a mam
  2. hendad
  3. gorhendad
  4. brawd/chwaer
  5. cefnder/cyfnither
  6. cyfyrder/cyfyrderes (ail gefnder/gyfnither)
  7. caifn (trydydd cefnder)
  8. gorchaifn (pedwerydd cefnder)
  9. gorchaw (pumed cefnder)

Astudiaethau golygu

Cychwynnodd yr astudiaeth fodern ym meysydd ieitheg a'r gyfraith gymharol yng nghanol y 19eg ganrif. Ar ddiwedd y ganrif honno daeth astudiaethau carennydd yn ganolbwynt i anthropoleg.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 12.
  2.  carennydd. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2014.
  3. D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 29.
  4. (Saesneg) kinship. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Tachwedd 2014.
  Eginyn erthygl sydd uchod am anthropoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.