Cymdeithas o bobl neu grŵp ceraint sy'n honni disgyn o un hynafiad cyffredin ac sydd ag arferion, defodau a sefydliadau arbennig yn gyffredin iddynt yw llwyth.[1] Yn aml casgliad o glaniau neu fandiau yw llwyth sy'n rhannu iaith, diwylliant, ac ideoleg, ac sy'n deyrngar i arweinyddiaeth wleidyddol sy'n ganoledig i raddau.[2][3]

Llwyth
Mathgrŵp ethnig, grŵp, polity Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r llwyth yn drefn gymdeithasol hynafol iawn, a gall fod yn amhendant ac yn ystwyth. Yn ystod oes trefedigaethrwydd, defnyddiodd y gwladychwyr ddiffiniadau a chyfundrefnau oedd yn seiliedig ar lwythau wrth weinyddu'r pobloedd hyn, er fod y fath grwpiau yn aml yn newid ac yn datblygu.[4] Mae llwythau'n dal i fodoli heddiw mewn rhai lleoedd yn y byd, naill ai fel grwpiau o bobl yn byw ar wahân, er enghraifft llwythau brodorol rhannau o Dde America, neu o fewn cymdeithas fodern, fel yn y byd Arabaidd cyfoes lle mae aelodaeth o'r llwyth yn dal i fod yn bwysig iawn. Gall llwyth gynnwys nifer o gymunedau llai, megis pentrefi, neu fod yn is-grŵp i'r genedl.

Yng nghanol y 19g, datblygodd ddamcaniaeth anthropolegol o esblygiad unllinellog, oedd yn honni bod y band, y llwyth, y benaduriaeth a'r wladwriaeth i gyd yn gamau mewn esblygiad diwylliannol dynoliaeth. Mae'r syniadaeth hon wedi ei thanseilio erbyn heddiw, ond parheir i ddefnyddio'r term "llwyth" i ddisgrifio pobl sy'n rhannu enw a thiriogaeth ac sy'n cydweithio'n economaidd ac yn ddiwylliannol.[3]

Rhai llwythau hanesyddol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol II, tud. 2248.
  2. Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 12.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) tribe (anthropology). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Mehefin 2015.
  4. Mackenzie, Peoples, Nations and Cultures (2005), t.13.
Chwiliwch am llwyth
yn Wiciadur.