Grŵp ethnig sydd yn frodorol i ardal fynyddig yng nghanolbarth Affganistan o'r enw Hazarajat yw'r Hazara. Maent yn siarad ffurf ddwyreiniol ar yr iaith Berseg o'r enw Hazaragi a nodweddir gan fenthyceiriau Mongolaidd a Thyrcaidd. Mae eu hiaith yn gyd-ddealladwy â Dari, un o ddwy iaith swyddogol Affganistan.[1][2][3] Mwslimiaid Shïa ydynt o draddodiad y Deuddeg Imam yn bennaf, ond mae rhai hefyd yn Ismailïaid neu yn Fwslimiaid Swnni.[4] Mae niferoedd ohonynt hefyd yn byw yn Iran ac yn rhanbarth Baluchistan ym Mhacistan.

Dyn Hazara o Khulm yn nhalaith Balkh (2007).
Map o grwpiau ethnig yn Affganistan sydd yn dangos ardaloedd yr Hazara mewn lliw gwyrdd (2013).

Mae'n bosib iddynt hanu o'r Mongolwyr a orchfygodd Khwarazmia, dan arweiniad Genghis Khan, yn y 13g, neu o'r Tsagadai yn lluoedd Timur a ddaeth i ardal Transocsiana yn y 15g.[5] Mae ganddynt olwg gorfforol yn debyg i bobloedd Fongolig, gan gynnwys y plygiadau epicanthig ar eu llygaid.[5] Felly, er iddynt siarad iaith Iranaidd, caiff yr Hazara ei ystyried yn grŵp ethnig Tyrcig neu Dyrco-Fongolaidd. Ceir cofnodion ohonynt ers cychwyn Ymerodraeth y Mughal yn yr 16g.[4] Mwslimiaid Swnni oeddynt ar y pryd hwnnw, a chawsant eu troi at Shiaeth yn ystod teyrnasiad y Shah Abbas I (1588–1629).[5] Oherwydd safle anghysbell Hazarajat buont yn lled-annibynnol nes y 1890au, pryd cawsant eu gorchfygu gan fyddinoedd Abdur Rahman Khan, Emir Affganistan. Ers hynny maent wedi dioddef rhagfarn, erledigaeth, dadleoli mewnol, ac alltudiaeth, yn enwedig dan lywodraeth y Taleban yn y 1990au.

Mae'r Hazara yn byw mewn tai a wneir o gerrig neu laid gyda thoeau gwastad wedi eu hadeiladu o amgylch libart, mewn cymunedau caerog ar bennau'r dyffrynnoedd culion. Ar lawr y dyffrynnoedd, maent yn tyfu cnydau gan gynnwys barlys, gwenith, codlysiau, ciwcymbrau, a ffrwythau. Maent hefyd yn pori defaid ar y mynyddoedd.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Attitudes towards Hazaragi". tt. 1–2. Cyrchwyd June 5, 2014.
  2. Schurmann, Franz (1962). The Mongols of Afghanistan: An Ethnography of the Moghôls and Related Peoples of Afghanistan. The Hague, Netherlands: Mouton. t. 17. OCLC 401634.
  3. Kieffer, Charles M. "HAZĀRA" [iv. Hazāragi dialect]. Encyclopædia Iranica. Cyrchwyd August 22, 2017.
  4. 4.0 4.1 4.2 (Saesneg) Hazara. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Medi 2021.
  5. 5.0 5.1 5.2 (Saesneg) Grant Farr, "Hazara" yn Encyclopedia of the Modern Middle East and North Africa. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 25 Rhagfyr 2021.