Awdures a model o Fecsico oedd Guadalupe "Lupe" Marín (16 Hydref 1895 - 7 Chwefror 1983).[1]

Guadalupe Marín
Ganwyd16 Hydref 1895 Edit this on Wikidata
Jalisco Edit this on Wikidata
Bu farw7 Chwefror 1983 Edit this on Wikidata
Dinas Mecsico Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Mecsico Mecsico
Galwedigaethysgrifennwr, model, nofelydd Edit this on Wikidata
PriodDiego Rivera, Jorge Cuesta Edit this on Wikidata
PlantGuadalupe Rivera Marín, Ruth Rivera Marín Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Jalisco, Mecsico ar 16 Hydref 1895 a bu farw yn Ninas Mecsico. Yn 8 oed symudodd y teulu i Guadalajara. Bu'n briod i'r arlunydd Diego Rivera am gyfnod o chwe mlynedd ac roedd Ruth a Guadalupe Rivera Marín yn blant iddi.[2][3][4]

Ar 9fed o Dachwedd yn yr un flwyddyn (1928) priododd y bardd Jorge Cuesta, gan ysgaru ar 13 Ebrill 1933. Cafodd un mab o'i hail briodas, Lucio Antonio Cuesta-Marín, a aned yn 1930.[5][6]

Yn 1938, cyhoeddwyd nofel lled-hunangofiannol Marín, La Única (Y Ferch Unigryw). Gwaharddwyd La Única ym Mecsico am flynyddoedd lawer oherwydd ei natur erotig.[1] Yn 2003, dyfynnwyd y nofel a Marín gan yr awdur Salvador A. Oropesa yn ei lyfr The Contemporáneos Group fel un o elfennau ffeministaidd mudiad awduron gwrth-ddiwylliant yn y Mecsico ôl-chwyldroadol. Ysgrifennodd Un día patrio hefyd yn 1941, lle mynegodd ei syniadau gwleidyddol.[1][7]

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Gwyddorau Mecsico am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Guadalupe Marin, controvertida musa, novelista y primera esposa de Diego Rivera". MXCity (yn Sbaeneg). 2016-08-29. Cyrchwyd 2019-01-23.
  2. Kettenmann, Andrea (2003). Rivera, p. 24. TASCHEN GmbH.
  3. Jinich, Pati (2014). "Diego Rivera's daughter on her father's favorite foods — and Frida Kahlo's parties". The Washington Post. Cyrchwyd 2019-01-23.
  4. Russell, Ron (2003-12-17). "Secret Rivera". SF Weekly (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-24. Cyrchwyd 2019-01-23.
  5. Ahrens, Jan Martínez (2015-10-02). "Lupe, Frida y Diego: los años locos". El País (yn Sbaeneg). ISSN 1134-6582. Cyrchwyd 2019-01-23.
  6. "Dos veces Cuesta | Confabulario | Suplemento cultural" (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2019-01-23.
  7. Oropesa, Salvador A. (2003). The Contemporáneos Group: Rewriting Mexico in the Thirties and Forties, t. 100. University of Texas Press.