Guelmim
Dinas ym Moroco yw Guelmim (Arabeg: كلميم, hefyd Goulimime neu Guelmin weithiau), sy'n gorwedd yn ne'r wlad ac a lysenwir "la porte du désert" ('Porth yr Anialwch'). Poblogaeth: 95,749 (cyfrifiad 2004).
Math | dinas, urban commune of Morocco, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 118,318 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Guelmim |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 298 metr |
Cyfesurynnau | 28.98°N 10.07°W |
Mae'n brifddinas rhanbarth Guelmim-Es Semara sy'n cynnwys rhan o dde Moroco (i'r de o ranbarth Souss-Massa-Draâ) a gogledd tiriogaeth ddadleuol Gorllewin Sahara, er nad yw'n rhan o Orlelwin Sahara fel y cyfryw. Mae'n gorwedd 190 km i'r de o Agadir, 108 km o Tiznit, a 40 km o lan Cefnfor Iwerydd.
Cynhelir marchnad camelod yno ym Mehefin. Mae'r farchnad yn atgof o'r cyfnod pan fu Guelmim yn derminws a man cychwyn llwybr masnach ar draws y Sahara a'i gysylltai gyda Tombouctou (Timbuktu), ym Mali. Ceir adfeilion hen balas y Cadi (rhaglaw) lleol yno.