Gukurahundi
Ymgyrch o ormes yn erbyn y Ndebele yn Simbabwe oedd y Gukurahundi a oedd yn cynnwys lladdfeydd ar raddfa eang, cyrchoedd milwrol, artaith, a chamdriniaethau hawliau dynol eraill. Cyflawnwyd y cyflafanau a'r terfysgoedd gan Fyddin Genedlaethol Simbabwe yn y cyfnod 1983–87. Bu farw miloedd ar filoedd o bobl, yn debyg 20,000 o leiaf, a gelwir y Gukurahundi yn enghraifft o hil-laddiad gan Gymdeithas Ryngwladol Ysgolheigion Hil-laddiad.[1] Ystyr yr enw Shona yw "y glaw cynnar sydd yn golchi'r us ymaith cyn glawogydd y gwanwyn".[2]
Enghraifft o'r canlynol | llofruddiaeth torfol |
---|---|
Dechreuwyd | 3 Ionawr 1983 |
Daeth i ben | 22 Rhagfyr 1987 |
Sefydlwyd y Bumed Frigâd gan Robert Mugabe, Prif Weinidog Simbabwe, yn 1981. Cawsant eu hyfforddi yn ardal Nyanga yn y cyfnod o Awst 1981 i Fehefin 1982, gyda chymorth o luoedd arfog Gogledd Corea. Ymfyddinwyd y Bumed Frigâd yn Ionawr 1983 i ostegu gwrthryfel yng Ngogledd Matabeleland.[3] Mae'n debyg i Mugabe gynllunio'r lladdfeydd er mwyn difa gwrthsafiad gwleidyddol yn ei erbyn, oherwydd roedd y mwyafrif o'r Ndebele yn cefnogi plaid ZAPU yn hytrach na llywodraeth ZANU a arweinid gan Mugabe.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Genocide experts say Gukurahundi justice needed for real peace", The Zimbabwean (27 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 2 Mawrth 2020.
- ↑ Geoffrey Nyarota, Against the Grain: Memoirs of a Zimbabwean Newsman (Tref y Penrhyn: Zebra Press, 2006), t. 134.
- ↑ (Saesneg) "Gukurahundi carefully planned Archifwyd 2020-03-02 yn y Peiriant Wayback", Zimbabwe Independent (18 Ebrill 2019). Adalwyd ar 2 Mawrth 2020.
- ↑ (Saesneg) Stuart Doran, "New documents claim to prove Mugabe ordered Gukurahundi killings", The Guardian (19 Mai 2015). Adalwyd ar 2 Mawrth 2020.