Gwäell gyffredin

Sympetrum striolatum
Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Libellulidae
Genws: Sympetrum
Rhywogaeth: S. striolatum
Enw deuenwol
Sympetrum striolatum
(Charpentier, 1840)

Gwas neidr o deulu'r Libellulidae ('Y Picellwyr') yw'r Gwäell gyffredin (Lladin: Sympetrum striolatum; lluosog: gweyll cyffredin). Ar un cyfnod rhestrwyd Gwäell yr ucheldir fel rhywogaeth ar wahân ond erbyn heddiw fe'i cofrestrwyd fel 'Gwäell gyffredin' h.y. unwyd y ddwy rywogaeth. Dyma'r teulu mwyaf o weision neidr drwy'r byd, gyda dros 1,000 o rywogaethau gwahanol. Mae'n frodorol o Ewrasia, ac mae i'w ganfod yng ngwledydd Prydain. Fel yr awgryma'r enw, mae'n un o weision neidr mwyaf cyffredin Ewrop.

Mae hyd ei adenydd yn 43mm ac fe welir yr oedolyn ar ei adain rhwng Mehefin a Thachwedd ger llwyni, coed, llysdyfiant a phlanhigion eraill ar lanau llynnoedd llonydd a phyllau dŵr. Yn ne Ewrop ac Asia, mae'r oedolyn ar ei adain drwy'r flwyddyn.

Mae'n gymharol anodd adnabod gweision neidr y genws yma: Sympetrum; mae gan y fenyw felyn ar eu thoracs a'u habdomen ac mae'r gwryw yn troi'n goch wrth iddynt aeddfedu. Mae'r fenyw yn tywyllu wrth fynd yn hŷn.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu