Gwaith Gruffudd ap Maredudd 1 - Canu i Deulu Penmynydd
Llyfr ac astudiaeth lenyddol, Gymraeg gan Barry J. Lewis (Golygydd) yw Gwaith Gruffudd Ap Maredudd I: Canu i Deulu Penmynydd. Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2003. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Golygydd | Barry J. Lewis |
Cyhoeddwr | Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Medi 2003 |
Pwnc | Astudiaethau Llenyddol |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780947531270 |
Tudalennau | 185 |
Genre | Llenyddiaeth Gymraeg |
Cyfres | Cyfres Beirdd yr Uchelwyr |
Disgrifiad byr
golyguMae'r gyfrol hon yn olygiad o waith Gruffudd ap Maredudd (bl.1366-82), yn cynnwys rhagymadrodd llawn gwybodaeth am ei fywyd a'i waith, ynghyd â manylion am deulu Tuduriaid Penmynydd, Môn y canodd iddynt. Ceir yma aralleiriad o wyth testun, nodiadau manwl a geirfa ddefnyddiol.
Rhan o adolygiad ar Gwales
golygugan Margaret Bowen
Ceir rhagymadrodd ar y dechrau sy'n trafod agweddau o waith y bardd, ei gefndir a'i ddyddiadau. Trafodir ei noddwyr a noddai nifer o feirdd, Iolo Goch a Llywelyn Goch ap Meurig Hen yn eu plith, yn eu llysoedd a chartrefi ar Ynys Môn. Serch hynny, nid oes trafodaeth ar grefftwaith y bardd a'i ddefnydd o ddelweddau a throsiadau, er enghraifft, yn yr adran hon. Â ymlaen i gyhoeddi'r wyth cerdd yn eu cyfanrwydd ac, yn dilyn hynny, ceir nodiadau helaeth ar y cerddi.
Dengys y golygydd bod y bardd yn moli ei noddwyr yn y ffordd draddodiadol, er enghraifft ym marwnad Hywel ap Goronwy, archddiacon Môn, disgrifir y gwrthrych â'r geiriau arwrol arferol a chanolbwyntir ar ei haelioni a'i letygarwch. Yn yr awdl foliant a'r farwnad i Dudur Fychan ap Goronwy, brawd gwrthrych y gerdd gyntaf, ceir disgrifiad o'i gampau ar faes y gad a delweddau traddodiadol o fyd anifeiliaid sy'n cyfleu eu safle fel noddwr delfrydol. Ceir delweddau tebyg yn y cerddi i'w fab Goronwy Fychan ap Tudur, er bod y gyfres o englynion yn rhif 5 yn canolbwyntio mwy ar ei salwch. Mae'r gerdd i'r noddwr anhysbys hefyd yn dilyn yr un confensiynau.
Mae'r nodiadau ar eiriau ac ymadroddion anghyfarwydd yn swmpus ac yn ein cynorthwyo i ddwyn goleuni ar y cerddi hyn o'r 14g. Mae'r golygydd yn tynnu ein sylw yn y rhagymadrodd at sylwadau Saunders Lewis yn ei lyfr Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1536 lle mae'n disgrifio Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd fel 'un o'r mawrion'. Edrychaf ymlaen felly at ddarllen gyfrolau eraill o waith y bardd hwn sy'n cynnwys cerddi crefyddol a pheth canu serch a chanu dychan. Bydd yn gyfle i werthfawrogi ymhellach waith bardd a ganai ar ddiwedd cyfnod Beirdd y Tywysogion a dechrau cyfnod newydd a chyffrous Beirdd yr Uchelwyr.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013