Awdur gweithiau crefyddol yn yr iaith Lladin a Lolard o Gymro oedd Gwallter Brut neu Walter Brut (hefyd Walter Brute) (fl. diwedd y 14g). Roedd yn frodor o Ororau Cymru. Mae'r prawf llys a sefyllodd yn 1391 yn ddigwyddiad o bwys yn hanes Lolardiaeth.

Gwallter Brut
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethffermwr Edit this on Wikidata

Ei hanes

golygu

Mae Gwallter yn disgrifio ei hun fel "pechodwr, lleygwr, ffermwr a Christion" yn ei brawf am heresi, a gynhaliwyd yn Henffordd o flaen Thomas Trefnant, Esgob Henffordd. Un o'r twrneiau a'i holodd yn y prawf oedd y croniclydd Cymreig Adda o Frynbuga.

Yn ei dystiolaeth haerai Gwallter mai'r Cymry oedd "dewis offeryn Duw" i ddymchwel y Pab a oedd, yn ôl rhai o'r Lolardiaid, yn neb llai na'r Gwrth-Grist (cred sy'n seiliedig ar ddarlleniad o Llyfr y Datguddiad). Yn nes ymlaen, yn 1402, byddai'n ymuno yng ngwrthryfel Owain Glyn Dŵr.[1]

O ran ei ddiwinyddiaeth, roedd yn ddilynwr i William Swinderby, un o ddisgyblion John Wycliffe. Un o syniadau "heretig" dadleuol Gwallter oedd ei gred fod gan ferched yr hawl i fod yn offeiriad.

Cyfeirir at Wallter Brut yn y gerdd Saesneg Canol adnabyddus Piers Plowman.

Mae Gwallter Brut yn gymeriad yn y nofel Saesneg Owen Glendower gan John Cowper Powys: ynddi mae'n ffoi am noddfa i Ddinas Brân, ger Llangollen.

Gweithiau

golygu
  • Diwynyddiaeth Sagrafen yr Allor

Cyfeiriadau

golygu
  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin), tud. 188.
  • "Text and Controversy from Wyclif to Bale: Essays in Honour of Anne Hudson". English Historical Review, 2007, vol CXXII
  • Registrum Johannis Trefnant Episcopi Herefordensis, gol. by W.W. Capes. Canterbury and York Society 20 (1916).