Gwareiddiad Minoaidd
Y Gwareiddiad Minoaidd yw'r enw a ddefnyddir am y gwareiddiad cynnar a ddatblygodd ar ynys Creta yn ystod Oes yr Efydd. Blodeuodd o tua'r 27ain ganrif CC hyd tua 1450 CC, pan olynwyd ef gan y Gwareiddiad Myceneaidd, efallai o ganlyniad i goncwest o dir mawr Gwlad Groeg.
Math | diwylliant archeolegol, civilization, hen wareiddiad, cyfnod o hanes, arddull |
---|---|
Enwyd ar ôl | Minos |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Oes yr Efydd, history of Crete |
Lleoliad | Creta |
Cyfesurynnau | 35.309722°N 24.893333°E |
Rhoddwyd yr enw "Minoaidd" iddo gan yr archaelegydd Prydeinig Syr Arthur Evans, ar ôl y Brenin Minos ym mytholeg Roeg. Bu ef yn cloddio yn Cnossos, y mwyaf adnabyddus o'r safleoedd Minoaidd, lle roedd palasau cymhleth gydag addurniadau tarawiadol. Safleoedd eraill tebyg yw Phaistos, Malia, a Kato Zakros.