Gwas neidr mudol y De

Gwas neidr mudol y De
A. affinis gwryw
A. affinis benyw
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Teulu: Aeshnidae
Genws: Aeshna
Rhywogaeth: A. affinis
Enw deuenwol
Aeshna affinis
Vander Linden 1823

Gwas neidr bychan o deulu'r Aeshnidae yw Gwas neidr mudol y De (enw gwrywaidd; llu. gweision neidr mudol y De; Lladin: Aeshna affinis; Saesneg: Southern Migrant hawker) sy'n bryfyn yn Urdd yr Odonata (sef Urdd y Gweision neidr a'r Mursennod). Mae tiriogaeth yr A. affinis yn ymestyn o dde Ewrop i Asia.

Nodweddion corfforol golygu

Llygad glas sydd ganddo, a cheir marciau glas ar ei abdomen hefyd. Mae'n edrych yn debyg iawn i'r Gwas neidr mudol (neu'r A. mixta) ond nid oes ganddo'r marc siâp 'T' ar ail gylchran yr abdomen, sy'n nodweddiadol o'r A. mixta. Un nodwedd arall sy'n cael ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng y ddau yw'r marciau ar y thoracs. Melynwyrdd yw lliw ochrau thoracs gwas neidr mudol y De, gyda llinellau du, ond gwahenir y melyn gan linellau brown ar thoracs y Gwas neidr mudol.

Nodweddion golygu

Mae'r oedolion yn ymddangos ym Mai ac maent yn hedfan hyd at Medi. Wedi iddynt ymddangos, mae'r oedolyn ifanc yn symud oddi wrth y dŵr gan dreulio'u hamser yn bwyta ac yn mwynhau eu cyfnod glasoed. Tua 10 diwrnod mae hyn yn para. Yna, treulia'r gwryw ifanc ei amser ger llyn neu byllau o ddŵr, yn chwilio am gymar; o'i chanfod mae'n ei bachu ac mae'r ddau'n cyplu.

Cyfeiriadau golygu

  • "Gomphus vulgatissimus". British Dragonfly Society. Cyrchwyd 28 Mai 2011. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Dolennau allanol golygu