Gwasanaeth sifil
(Ailgyfeiriad o Gwas sifil)
Mae'r term gwasanaeth sifil yn gyffredinol yn cyfeirio at wasanaethu anfilwrol cyflogedig mewn swydd an-etholedig o fewn adran weithredol llywodraeth. Nid yw'r term yn cymhwyso gwasanaethu yn adrannau deddfwriaethol a chyfreithiol llywodraeth. Diffinnir gwas sifil fel un sydd yn gweithio i adran neu asiantaeth lywodraethol yn y sector cyhoeddus. Mae'r term wastad yn cynnwys gweithwyr cyflogedig y wladwriaeth sofranaidd; p'un a gynhwysir gweithwyr rhanbarthol, is-wladwriaethol neu fwrdeistrefol yn amrywio o wlad i wlad. Er enghraifft, yn y Deyrnas Unedig gweithwyr y Goron yn unig sydd yn weision sifil, ac nid gweithwyr sirol neu ddinasol. Ystyrir astudiaeth y wasanaeth sifil yn aml i fod yn rhan o faes gweinyddiaeth gyhoeddus.
Enghraifft o'r canlynol | service type |
---|---|
Math | sefydliad, gweithgaredd |
Yn cynnwys | swydd gyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |