Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn is-adran o Ymddiriedolaeth GIG Felindre sy'n gyfrifol am gasglu gwaed yng Nghymru, a dosbarthiad cynhyrchion gwaed i ysbytai o fewn y wlad, yn ogystal â swyddogaethau cysylltiedig eraill.[1]

Casglu gwaed yn Abergwaun

Sefydlwyd y gwasanaeth ym 1946. Ar yr adeg honno'r unig brawf a gynhaliwyd oedd ar gyfer syffilis. Ers hynny rhoddwyd bron i 10 miliwn o unedau o waed yng Nghymru. .[2]

Swyddogaeth

golygu

Mae swyddogaeth Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cynnwys

  • casglu rhoddion gwaed, platennau a chelloedd stem gwirfoddol, heb fod am dal gan y cyhoedd yn gyffredinol. 
  • dosbarthu cynhyrchion gwaed i ysbytai Cymru. .
  • darparu gwasanaeth sgrinio cyn geni i ysbytai.
  • gwasanaethau labordy arbenigol, gan gynorthwyo ymchwilio i broblemau serolegol cymhleth
  • cyfrifoldeb am Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru[3], sy'n darparu cymorth uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau trawsblannu arennol a bôn gelloedd gwaed. Mae hefyd yn cynnal panel cenedlaethol o roddwyr potensial o bôn-gelloedd gwaed a Chofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.
  • darparu cymorth ymgynghorydd meddygol i bwyllgorau trallwyso gwaed Cymru i'w galluogi i fodloni WHC (2002)137 - Tralllwyso Gwaed Gwell. Darparir cyngor clinigol i ysbytai yn ôl y galw.
  • cynnal cynllun asesu ansawdd allanol NEQAS ar gyfer Histogydnawsedd ac Imiwnogenetig y Deyrnas Unedig
  • cynnal Cynllun Asesiad Hyfedredd Serolegol Cymru

Gwasanaeth Gwaed Cymru Gyfan

golygu

Ar 2 Mai 2016 daeth Gwasanaeth Gwaed Cymru yn wasanaeth cenedlaethol pan ddechreuodd gasglu a dosbarthu gwaed yn y gogledd. Cynt roedd y gwasanaeth yn cwmpasu canolbarth, de a gorllewin Cymru yn unig, gyda gwasanaethau'r gogledd yn cael eu darparu fel rhan o wasanaeth Lloegr. [4][5]

Ymchwil a Datblygu

golygu

Mae'r gweithgaredd ymchwil a datblygu o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cefnogi ystod eang o bynciau gofal iechyd.[6] Mae ei bedair thema ymchwil, Trawsblannu, Gofal Rhoddwyr ac Iechyd y Cyhoedd, Cynhyrchion a Therapïau yn adlewyrchu sbectrwm y gwaith hwn. Yn 2017 cyhoeddodd Ymchwil a Datblygu Strategol Gwasanaeth Gwaed Cymru sy'n nodi ei ehangiad arfaethedig  i waith cydweithredol ac ymgysylltu â meysydd meddygaeth adfywio a phersonol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Amdanom ni". Welsh Blood Service. 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-18. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  2. "Welsh Blood Service celebrates 70 years saving lives". ITV News. 26 September 2016. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  3. "Welsh Transplantation and Immunogenetics Laboratory". Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
  4. Gwasanaeth Gwaed Cymru - Amdanom Ni Archifwyd 2017-09-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Ionawr 2018
  5. New all-Wales blood service set to be launched next May to ensure every donation supports Welsh patients adalwyd 21 Ionawr 2018
  6. "Research and Development". Welsh Blood Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-09.

Dolen allanol

golygu