Gweirlöyn y cloddiau
Lasiommata megera | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Lasiommata |
Rhywogaeth: | L. megera |
Enw deuenwol | |
Lasiommata megera (Linnaeus, 1767) |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gweirlöyn y cloddiau, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gweirloynnod y cloddiau; yr enw Saesneg yw Wall Brown, a'r enw gwyddonol yw Lasiommata megera.[1]
Mae i'w gael yn hemisffer y gogledd, a'i gynefin yw ymylon fforestydd, llanerchau, rhosydd a chymoedd lle ceir afon hyd at uchder o 0–3,000 metr (0–9,800 tr) . Mae'r oedolyn i'w weld yn hedfan rhwng Ebrill i Hydref a cheir dwy neu dair cenhedlaeth y flwyddyn.
Bwyd
golyguMae'r Siani flewog yn hoff o wahanol weiriau megis: Festuca, Bromus, Deschampsia, Poa, Dactylis a Brachypodium.
Isrywogaeth
golygu- L. m. megera
- L. m. vividissima
- L. m. megerina (Herrich-Schäffer, 1856) - Transcaucasia
- L. m. transcaspica (Staudinger, 1901) - Turkmenia
-
Lasiommata megera megera ♂
-
♂ △
-
♀
-
♀ △
Maint
golyguMae rhwng 36 - 50mm o'r naill adenydd i'r llall.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r gweirlöyn y cloddiau yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.