Gweision neidr tindrom

Teulu o bryfaid
Gweision neidr tindrom
Gomphidae
Austrogomphus guerini
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Odonata
Is-urdd: Anisoptera
Uwchdeulu: Aeshnoidea
Teulu: Gomphidae

Teulu o bryfaid a elwir yn aml yn Weision neidr tindrom yw'r Gomphidae. Mae'r teulu hwn o Weision neidr o fewn Urdd yr Odonata ac yn cynnwys tua 90 genera (gweler isod) a 900 rhywogaeth. Mae'r enw 'tindrom' (tin / pen ôl) yn cyfeirio at gylchrannau 7-9 o'r abdomen, sydd yn aml, ond nid pob amser, wedi'i chwyddo fel pastwn.

Mae'r gair Lladin (a gwyddonol) Gomphidae yn dod tarddu o'r gair 'gomffws', sef colyn (Saesneg: hinge).

Nodweddion golygu

Un o'u nodweddion pennaf yw eu llygaid - sydd wedi'u gosod ymhell o'i gilydd ar eu pennau; ond gofal! - mae hyn hefyd yn nodwedd o rai o'r mursennod a'r Petaluridae. Gwyrdd, glas neu wyrddlas yw lliw'r llygad. Digon llwydaidd ydy thoracs y rhan fwyaf o'r rhywogaethau ac mae ganddynt resi tywyll arno, rhesi sy'n gymorth i adnabod y gwahanol fathau. Prin yw lliwiau llachar a metalig y grŵp hwn o weision neidr, digon gwelw o'u cymharu gydag eraill; y rheswm a mhyn yw er mwyn i'w lliw gydweddu gyda'u hamgylchedd gwelw.

Ychydig iawn o wahaniaeth sydd rhwng y fenyw a'r gwryw ac maen nhw'n mesur 40 – 70 mm (1.6 - 2.8 mod).

Galeri golygu


Genera golygu

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: