Rainer Maria Rilke

ysgrifennwr, bardd, dramodydd, cyfieithydd, nofelydd (1875-1926)

Roedd Rainer Maria Rilke (4 Rhagfyr 187529 Rhagfyr 1926) yn fardd Bohemiaidd Awstriaidd ac yn feirniad. Mae Rilke yn un o feirdd pwysicaf yr Almaeneg. Un o'i weithiau enwocaf yw'r Marwnadau Duino. Ar ben ei gynnyrch Almaeneg mae wedi ysgrifennu rhyw 400 cerdd yn y Ffrangeg am ei fod wedi setlo yn Valais, canton Ffrengig ei hiaith yn y Swistir.

Rainer Maria Rilke
GanwydRené Karl Wilhelm Johann Josef Maria Rilke Edit this on Wikidata
4 Rhagfyr 1875 Edit this on Wikidata
Prag Edit this on Wikidata
Bu farw29 Rhagfyr 1926 Edit this on Wikidata
Montreux Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, Awstria, Awstria-Hwngari Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, bardd, dramodydd, cyfieithydd, nofelydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amDie Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge, Duino Elegies, Sonnets to Orpheus, Worpswede, The carousel Edit this on Wikidata
ArddullDinggedicht, rhyddiaith Edit this on Wikidata
MudiadSymbolaeth (celf) Edit this on Wikidata
PriodClara Westhoff Edit this on Wikidata
PartnerClaire Goll, Baladine Klossowska, Lou Andreas-Salomé Edit this on Wikidata
PlantRuth Sieber-Rilke Edit this on Wikidata
PerthnasauJaroslav von Rilke Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://rilke.de Edit this on Wikidata
llofnod
Paula Modersohn-Becker. Rainer Maria Rilke, 1906

Bywyd golygu

Ei enw llawn oedd René Karl Wilhelm Johann Josef Maria Rilke . Swyddog Rheilffordd oedd ei dad, Josef Rilke (1838-1906), roedd ei fam , Sophie ("Phia") Entz (1851-1931), o deulu cefnog. Bu i'r teulu byw yn Herrengasse (Panská) 8. Prâg. Ysgarwyd ei rieni ym 1884.

Aeth Rilke i Goleg Milwrol o 1886 tan 1891, ac o 1892 i 1895 cafodd diwtor i'w helpu i gyrraedd y Brifysgol yn 1895. Astudiodd Llên a Hanes ym Mhrâg a München.

Yn 1897 ym München, cwrddodd Rainer Maria Rilke a'i gariad cyntaf sef Lou Andreas-Salomé (1861-1937). Ond roedd hi'n briod; parodd y perthynas tan 1900. Yn 1899, aeth efo Lou a'i gŵr, Friedrich Andreas, i Moscow lle cwrddon nhw â Leo Tolstoy. Y flwyddyn wedyn aeth y tri i Saint Petersburg, lle cwrddon nhw â theulu Boris Pasternak .

Tra yn Worpswede ym 1900, cwrddodd Rilke a'r gerflunydd Clara Westhoff (1878-1954), priodon nhw y flwyddyn nesaf a ganwyd merch iddynt, sef Ruth (1901-1972) yn Rhagfyr 1901. Dianc oedd ymateb Rilke, ac yn 1902 aeth i Paris i ysgrifennu llyfr am Auguste Rodin (1840-1917). Cadwodd Clara Westhoff yn ffyddlon iddo am ei hoes er gwaethaf hyn.

Ym Mharis daeth yn gyfaill i Rodin ac o'i gyfnod Paris y mae Neue Gedichte (Cerddi Newydd) (1907), Der Neuen Gedichte Anderer Teil (Rhagor o Gerddi Newydd) (1908), a'r cerddi "Requiem" (1909), ynglŷn â'i nofel Die Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge (1910).

Dros gaeaf a gwanwyn 1912, arhosodd Rilke yng Nghastell Duino, ger Trieste, yn westai i Dduges Thurn a Taxis. Yno y cyfansoddodd ei Marwnadau Duino. Arhosodd yn München drwy'r rhyfel byd cyntaf ac o 1914 i 1916 cafodd affêr efo'r arlunydd Lou Albert-Lasard.

Yn 1919, ar ddiwedd y rhyfel aeth Rilke i'r Swistir er mwyn gorffen ei Marwnadau Duino a'i Sonedau i Orpheus: rhyw 55 o sonedau. Roedd e'n wael erbyn 1923 ac aeth i ysbyty ger Montreux, ar Lyn Genefa. Bu farw o leukemia ar 29 Rhagfyr 1926 ac fe'i gladdwyd 2 Ionawr 1927 yn Raron gerllaw.

 
Bedd Rilke yn Raron, Y Swistir

Ysgrifennodd ei Feddargraff ei hun;

Rose, oh reiner Widerspruch, Lust,

Niemandes Schlaf zu sein unter soviel

Lidern.

Cyfieithiad Cymraeg:

  • 'Croesddywediad yw'r rhosyn:'
  • 'y diddanwch o fod yn gwsg-neb dan'
  • 'cymaint o amrannau.'

Cyfieithiad saesneg:

'Rose, oh pure contradiction, delight' 'of being no one's sleep under so' 'many lids'.

Mae'r Prifardd Alan Llwyd wedi cyfieithu peth o'i waith i'r Gymraeg. Roedd Rilke yn gyfaill agos i'r arlunydd Cymraeg Gwen John[1]

Gwaith golygu

  • Rainer Maria Rilke, Sämtliche Werke in 12 Bänden gan Ruth Sieber-Rilke, golygydd Ernst Zinn. Frankfurt am Main (1976)
  • Rainer Maria Rilke, Werke ('Gwaith). Frankfurt am Main a Leipzig (1996 a 2003)
  • Leben und Lieder (Bywyd a Cherddi) (1894)
  • Larenopfer (Lares' Aberthu) (1895)
  • Traumgekrönt (Coronwyd â Breuddwyd) (1897)
  • Advent (Grawys) (1898)
  • Mir zur Feier (Dathliad i mi) (1909)
  • Das Stunden-Buch (Llyfr Oriau)
    • Das Buch vom mönchischen Leben (Llyfr Bywyd y Mynach) (1899)
    • Das Buch von der Pilgerschaft (Llyfr pererindod) (1901)
    • Das Buch von der Armut und vom Tode (Llyfr Tlodi a Marwolaeth) (1903)
  • Das Buch der Bilder (Llyfr Delweddau) (4 Rhan, 1902-1906)
  • Neue Gedichte (Cerddi Newydd) (1907)
  • Duineser Elegien (Marwnadau Duino) (1922)
  • Sonette an Orpheus (Sonedau i Orpheus) (1922)

Rhyddiaith golygu

  • Geschichten vom Lieben Gott (Straeon Duw') 1900
  • Auguste Rodin (1903)
  • Die Weise von Liebe und Tod des Cornets Christoph Rilke (Cerdd byw a marw y Cornet Christoph Rilke) 1906
  • Die Aufzeichnungen des Malte Laurids Brigge (Nod-llyfrau Malte Laurids Brigge) nofel, 1910

Llythyrau golygu

  • Gesammelte Briefe in sechs Bänden gan Ruth Sieber-Rilke a Carl Sieber. Leipzig (1936-1939)
  • Briefe gan y Rilke Archive, Weimar. Wiesbaden 1950
  • Briefe in Zwei Bänden Horst Nalewski, Frankfurt and Leipzig, 1991
  • Briefe an Auguste Rodin (Insel Verlag, 1928)
  • Briefwechsel mit Marie von Thurn und Taxis, golygydd Ernst Zinn (Editions Max Niehans, 1954)
  • Briefwechsel mit Thankmar von Münchhausen 1913 bis 1925 (Suhrkamp Insel Verlag, 2004)
  • Briefwechsel mit Rolf von Ungern-Sternberg und weitere Dokumente zur Übertragung der Stances von Jean Moréas (Suhrkamp Insel Verlag, 2002)

Llyfryddiaeth golygu

  • Ralph Freedman, Life of a Poet: Rainer Maria Rilke, New York 1996.
  • Donald Prater, A Ringing Glass: The Life of Rainer Maria Rilke, Oxford University Press, 1994
  • Paul Torgersen, Dear Friend: Rainer Maria Rilke and Paula Modersohn-Becker, Northwestern University Press, 1998.
  • A Companion to the Works of Rainer Maria Rilke, ed. Erika A and Michael M. Metzger, Rochester 2001.
  • Rilke Handbuch: Leben - Werk - Wirkung, ed. Manfred Engel and Dorothea Lauterbach, Stuttgart and Weimar 2004.
  • Goldsmith, Ulrich, ed. (1980). Rainer Maria Rilke, a verse concordance to his complete lyrical poetry. Leeds: W.S. Maney.
  • Mood, John J. L. Rilke on Love and Other Difficulties. (New York: W. W. Norton 1975, reissue 2004) ISBN 0-393-31098-1.
  • Mood, John. Rilke on Death and Other Oddities. Philadelphia: Xlibris, 2006. ISBN 1-4257-2818-9.
  • Schwarz, Egon. Poetry and politics in the works of Rainer Maria Rilke. Frederick Ungar, 1981. ISBN 978-0-8044-2811-8.

Mood, John. 'A New Reading of Rilke's "Elegies": Affirming the Unity of "life-AND-death"'. Lewiston, NY: Edwin Mellen Press, 2009 ISBN 978-0-7734-3864-4.

Cyfeiriadau golygu

  1. Foster, Alicia, & John, Gwen. (1999). Gwen John. British artists. Princeton, NJ: Princeton University Press. ISBN 0-691-02944-X

Dolenni allanol golygu