Gwen o Dalgarth
Santes oedd Gwen o Dalgarth ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1] Etifeddodd Garth Madrun (Talgarth) gan ei mam-gu, Marchell. Priododd Llŷr Merini ac roedd yn fam i Garadog Freichfras.
Gwen o Dalgarth | |
---|---|
Ganwyd | 463, 5 g Penfro |
Bu farw | 18 Hydref 544 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 18 Hydref |
Tad | Brychan |
Plant | Caradog Freichfras |
Mae'n fwyaf nodedig am fyw bywyd Cristnogol ac am ei charedigrwydd.[2] Lladdwyd Gwen mewn ymosodiad gan lwyth paganaidd yn 492. Credir fod eglwys Talgarth yn sefyll ar y fan ble'i lladdwyd a gwnaethpwyd creirfa i'w chorff yno.
Cysegriadau
golyguMae eglwys Talgarth yn dal i ddwyn enw Gwen ac mae eglwys arall wedi'i chysegru iddi yn Llyswen. Heddiw mae'r ddwy eglwys yn defnyddio yr enw Gwendolen. Bu'r enw Gwendolen yn boblogaidd yn Lloegr yn Oes Fictoria ac mae'n debyg y newidiwyd enwau'r ddwy eglwys bryd hynny. Bu santes arall yn dwyn yr enw Gwendolen ond Gwen o Dalgarth yw nawddsant Talgarth a Llyswen.[2]
Gweler hefyd
golyguDylid darllen yr erthygl hon yng nghyd-destun Santesau Cymru 388-680.
Ni ddylid ei chymysgu hi gyda Gwen o Gernyw na Gwen Teirbron.