Caradog Freichfras
Ceir nifer o gyfeiriadau at Caradog Freichfras (477 - 540) yn hanes traddodiadol Cymru. Ceir y cyfeiriad cynharaf ym muchedd Sant Padarn, fel Caradauc, cognomento Brechbras. Ei dad oedd Gwrgan Fawr. Dywedir iddo ddod yn frenin Prydain a Llydaw.
Yn draddodiadol cysylltir ef ac ardaloedd Brycheiniog a Maesyfed. Cyfeirir ato yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy fel 'Caradog Freichfras ap Llyr Marini', a cheir cyfeiriad ato fel Caradog ap Llŷr yn chwedl Geraint fab Erbin. Yn ôl Bonedd y Saint ef oedd tad y seintiau Cadfarch, Tangwn a Maethlu. Dywedir i'w fab Cawrdaf sefydlu teyrnas yn Rhwng Gwy a Hafren yn y 6g. Yn ôl buchedd sant Collen, roedd yntau'n ddisgynnydd iddo. Enwir ei wraig fel Tegau Eurfron. Ymddengys fel Karadués Briebraz yn Erec ac Enide gan Chrétien de Troyes.
Fe'i rhestrir yn Nhrioedd Ynys Prydain fel un o 'Dri Chadfarchog Ynys Prydain':
- 'Tri Chadfarchog Ynys Prydain:
- Caradog Freichfras,
- a Menwaedd o Arllechwedd,
- a Llŷr Lluyddog.'
Mae triawd arall yn ei nodi fel 'pen hynaif' y Brenin Arthur yn ei lys yng Nghelliwig yng Nghernyw: Tintagel o bosibl ac yn nhriawd TYP rhif 38 dywedir fod ganddo geffyl o'r enw 'Lluagor', a elwir yn un o 'Dri Ceffyl Teilwng Ynys Prydain'.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0
Cyfeiriadau
golygu- ↑ llgc.org.uk; A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000 gan P C BArtrum.