Gwen Teirbron
Santes yw Gwen Teirbron ach Emyr Llydaw.
Gwen Teirbron | |
---|---|
Ganwyd | 5 g Llydaw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Dydd gŵyl | 3 Hydref |
Tad | Emyr Llydaw |
Priod | Fragan |
Plant | Gwenole, Cadfan, Iago Sant, Saint Guéthénoc, Clervie |
Priododd Eneas Ledewig o Lydaw yn gyntaf. Cawsant fab, Cadfan. Yna priododd â Ffracan a chawsant dri o blant: Gwenolau (neu "Winwaloe" mewn Cernyweg), Gwyddno ac Iago. Bu raid iddynt ffoi i Gernyw pan gipiodd Hoel rym yno yn 546. Bu hi farw yn Nghernew.[1] Ei dydd gŵyl yw 3 Hydref.[2]
Mae Gwen Teirbron yn nawddsant mamau sy'n maethu. Bu galw gwraig yn "dair bron" (weithiau pedair bron) yn nod draddodiadol i ddynodi gwraig a oedd wedi esgor ar blant gan fwy nag un gŵr.
Fe'i coffheir mewn nifer o leoedd yn Llydaw; er enghraifft mae cerflun ohoni yng nghapel Sant-Venec ger Kemper.
Ar ôl ei marwolaeth priodolodd y werin iddi alluoedd Wita, duwies Celtaidd a gynorthwyodd famau gyda'u plant i sugno. Arferid offrymu llin a cogail iddi gyda gweddïau am ddigonedd o laeth ar gyfer baban newydd.
Ni ddylid cymysgu hi gyda Gwen o Dalgarth neu Gwen o Gernyw.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Breverton, T.D. 2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr Publishing.
- ↑ Enwau a dyddiau gwyl; 3 Hydref 2016.
Llyfryddiaeth
golygu- Peter C. Bartrum (1993) A Welsh classical dictionary (Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ISBN 0-907158-73-0