F. Gwendolen Rees

helmintholegydd (yn astudio llyngyr), Athro Soleg
(Ailgyfeiriad o Gwendolen Rees)

Swolegydd o Gymru a arbenigai mewn parasitiaid oedd Florence Gwendolen Rees, FRS[1] (3 Gorffennaf 19064 Hydref 1994). Hi oedd y ferch gyntaf i gael ei derbyn i'r Gymdeithas Frenhinol.[1] Erbyn iddi gyrraedd ei 80 oed roedd wedi cyhoeddi 68 o bapurau academaidd.[2]

F. Gwendolen Rees
Ganwyd3 Gorffennaf 1906 Edit this on Wikidata
Abercynon Edit this on Wikidata
Bu farw4 Hydref 1994 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Man preswylAberdâr, Ghana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethswolegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Linnean Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Aberdâr, cyn mynychu'r ysgol leol i ferched (1918–24) ac yna i Brifysgol Caerdydd lle yr astudiodd cemeg, bioleg a swoleg, gan dderbyn gradd BSc gydag anrhydedd mewn swoleg. Astudiodd y falwoden ar gyfer ei doethuriaeth.

Gweithiodd yn adran Swoleg Prifysgol Aberystwyth, yn is-ddarlithydd rhwng 1930 a 1937, darlithydd rhwng 1937 a 1947, uwch-ddarlithydd hyd at 1966, darllenydd hyd at 1971 ac Athro Prifysgol rhwng 1971 a 1973. Wedi ei hymddeoliad, fe'i gwnaed yn Athro Emeritws yn 1973.[1][2]

Ym mis Medi 2023, ail-enwyd un o brif adeiladau academaidd Prifysgol Aberystwyth ar ôl Gwendolen. Cafodd yr enw ei ddadorchuddio ar blac ar adeilad Adran Gwyddorau Bywyd (DLS) a sefydlwyd yn 2022. Dadorchuddiwyd y plac yn y seremoni gan ddau o nithoedd yr Athro Rees ynghyd â staff hŷn o Brifysgol Aberystwyth.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Morris, J. G. (1997). "Florence Gwendolen Rees. 3 Gorff 1906–4 Hydr 1994: Elected F.R.S. 1971". Biographical Memoirs of Fellows of the Royal Society 43: 445. doi:10.1098/rsbm.1997.0024.
  2. 2.0 2.1 Haines, Catharine. International Women in Science. t. 259. |access-date= requires |url= (help)
  3. "Enwi adeilad prifysgol ar ôl y gwyddonydd Gwendolen Rees". newyddion.s4c.cymru. 2023-09-22. Cyrchwyd 2023-09-22.