Abercynon
Pentref bychan a chymuned yng Nghwm Cynon, yn Rhondda Cynon Taf, de Cymru yw Abercynon. Mae'n gorwedd ar gymer afon Cynon ac afon Taf. Mae Caerdydd 21.4 km i ffwrdd o Abercynon ac mae Llundain yn 223.4 km.
![]() | |
Math |
pentref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Rhondda Cynon Taf ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.6445°N 3.3267°W, 51.6469°N 3.3358°W ![]() |
Cod SYG |
W04000678 ![]() |
Cod post |
CF45 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au | Beth Winter (Llafur) |
![]() | |
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[1][2]
Ceir dwy orsaf drenau yno, un ar y rheilffordd o Gaerdydd i Aberdâr, a'r llall ar reilffordd Caerdydd-Merthyr Tudful. Abercynon oedd pen y daith reilffordd stêm gyntaf yn hanes y byd pan yrrodd Richard Trevithick injan stêm, ar 21 Chwefror 1804, a oedd yn tynnu haearn a theithwyr, o waith haearn Penydarren ym Merthyr Tudful i fasn Camlas Morgannwg yn Abercynon. Ceir cofebion i'r daith hanesyddol ym Mhenydarren ac yn Abercynon.
Mae Abercynon yn gartref i Westy'r Thorn, a ddefnyddiwyd gan Tom Jones i ymarfer ar gyfer ei berfformiadau.
HanesGolygu
Datblygodd y pentref fel canolfan cludiant ar gyffordd ar Gamlas Morgannwg ac ar fan cyffwrdd dwy gangen rheilffordd Cwm Taf. "Navigation" oedd enw'r pentref am gyfnod. Suddwyd pwll glo yno ym 1889 a ymunwyd ag Ynysybwl ac a adnabuwyd hyd ei gau yn yr wythdegau fel Glofa Abercynon Lady Windsor.
Ganwyd y paffiwr Dai Dower yno. Mae Plasty Llancaiach Fawr heb fod ymhell o'r pentref.
Cyfrifiad 2011Golygu
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Dolenni allanolGolygu
- Clwb Rygbi Abercynon Archifwyd 2018-08-10 yn y Peiriant Wayback.
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aberdâr · Abernant · Aberpennar · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llantrisant · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Pontypridd · Y Porth · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonypandy · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Treorci · Trerhondda · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynysybŵl · Ystrad Rhondda