Gwendoline Trubshaw
Roedd Gwendoline Joyce Trubshaw, DBE (1887 - 8 Tachwedd 1954) yn swyddog yn y sector cyhoeddus yng Nghymru a gymerodd ddiddordeb arbennig mewn recriwtio ar gyfer yr Ail Ryfel Byd, ac mewn lles menywod. Roedd hi'n aelod etholedig o Gyngor Sir Gaerfyrddin a chyflawnodd nifer o rolau blaenllaw mewn ystod o sefydliadau addysg ac iechyd.
Gwendoline Trubshaw | |
---|---|
Ganwyd | 20 Rhagfyr 1886 |
Bu farw | 8 Tachwedd 1954 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | swyddog, gweithiwr cymdeithasol |
Gwobr/au | Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Magwraeth
golyguRoedd Trubshaw yn ferch i Ernest a Lucy Trubshaw, o Ael-y-bryn, Felin-foel, Llanelli, a bedyddiwyd hi ar 1 Ebrill 1887. Roedd hi'n byw yn Cae'r Delyn, Llanelli, ond bu farw yn Llundain ar 8 Tachwedd 1954.[1]
Roedd Trubshaw yn gyfrifol am recriwtio menywod ar gyfer gwasanaeth rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; cymerai ddiddordeb dwfn yn eu lles a gweithiodd yn agos gyda nhw yn y ffatrïoedd creu arfau. Oherwydd ei gwaith fel cadeirydd Pwyllgor Pensiynau Rhyfel De-orllewin Cymru ac ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Teuluoedd y Milwyr, y Morwyr a'r Awyrenwyr, fe gyflwynwyd iddi'r CBE ym 1920.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Llyfrgell genedlaethol Cymru : Dictionary of Welsh Biography". yba.llgc.org.uk. Cyrchwyd 22 Ebrill 2018.