Gwenno Davies

llenor

Athrawes a nofelydd o Lansannan yw Gwenno Davies.[1]

Gwenno Davies
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethllenor, athro ysgol uwchradd Edit this on Wikidata

Graddiodd mewn Drama ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae Davies yn bennaeth Drama a chydlynydd Llythrennedd yn Ysgol y Creuddyn. Mae ei nofel wreiddiol gyntaf i blant Gwneud fel maen NHW'n ei Ddweud! wedi ei chyhoeddi fel rhan o gyfres Swigod, Wasg Gomer. Mae ganddi ddrama wreiddiol, Su' mai WAAAAA! wedi ei chyhoeddi gan wasg y Lolfa, fel rhan o gynllun cyfres Dramâu'r Drain, ac mae wedi cyfrannu tuag at sawl cyfrol o straeon byrion a barddoniaeth dros y blynyddoedd. Mae Gwenno hefyd wedi addasu holl gyfrolau'r gyfres Tudur Budr, yn ogystal ag ambell gyfrol o'r gyfres Siriol Swyn gyda Gwasg Gomer. Hi yw enillydd coron Eisteddfod yr Urdd 2005[2] ac Eisteddfod yr Urdd 2006.[3]

Cyhoeddwyd y gyfrol Money Matters: Justin Theway gan wasg Canolfan Peniarth yn 2015.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "www.gwales.com - 1783900695". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.
  2. "Llinos yn ildio Coron yr Urdd". BBC Cymru. 15 Mehefin 2005. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  3. "Gwenno'n ennill Coron a seremoni". BBC Cymru. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Gwenno Davies ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.