Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2006
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Ddinbych 2006 yn Rhuthun rhwng 29 Mai - 2 Mehefin 2006.
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd |
---|---|
Dyddiad | 2006 |
Lleoliad | Rhuthun |
Ffigwr presenoldeb terfynol oedd 100,000 a phawb yn canmol y Maes fel un o'r goreuon o ran golygfeydd yn glyd ym mhoced gwasgod Moel Famau a bryniau Clwyd.
Siomi beirniaid
golyguBu'r Eisteddfod yn llwyddiant o ran hwyl a niferoedd, fodd bynnag, yn ystod yr wythnos siomwyd mwy nag un beirniad gyda nifer y cystadleuwyr yn y prif gystadlaethau gyda'r Dr Geraint W Jones y llymaf ei gerydd o dderbyn dim ond chwe ymgais am Fedal y Dysgwyr.
Dim ond tri a ymgeisiodd am y Gadair gydag un o'r rheini yn dod yn gyntaf ac yn ail a'r beirniad yn canmol y safon yn gyffredinol. Nododd un o'r beirniaid, Dr Geraint W.Jones, "Eleni chwech yn unig ymgeisiodd am Fedal y Dysgwyr....ac i wneud y sefyllfa'n waeth fyth roedd yr ymgeiswyr yma'n dod o dair ysgol uwchradd yn unig," meddai.
"O gofio fod disgyblion yn astudio'r Gymraeg fel ail iaith mewn 227 o ysgolion uwchradd ledled Cymru roedd y nifer yma'n hynod, hynod o siomedig.
Ymgeisiodd saith am y Tlws Drama, nifer heb lawer o lewyrch ar eu gwaith.
Naw gystadleuodd am y Fedal Lenyddiaeth a nifer mwy anrhydeddus o 17 am y Goron a hynny'n gwneud camp Gwenno Mair Davies yn sicrhau seremoni iddi ei hun yn dilyn stomp y llynedd yn gamp fwy anrhydeddus fyth ac yn rhywbeth yr oedd ymfalchio cyffredinol ynddo.
Ond yn amlwg, mae gan yr Urdd rywbeth i bryderu amdano gyda'r diffyg diddordeb yn y prif wobrau llenyddol hyn ac hefyd Dlws y Cerddor na ddenodd ond tair ymgais.
Cafwyd ymweliad yr awdur Saesneg, Anthony Horowitz, a oedd yn y Steddfod ar gyfer cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o un o'i nofelau, Tarandon.[1]
Enillwyr
golygu- Y Goron - Gwenno Mair Davies, Llansannan. Graddiodd yn y Gymraeg a Drama ym Mhrifysgol Aberystwyth ac oedd yn athrawes yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Daeth hi hefyd yn drydydd am y Fedal Ddrama.[2] Bu i Gwenno ennill y Goron yn Eisteddfod Canolfan y Mileniwm, Caerdydd 2005 wedi i'r enillydd, Llinos Dafydd, ildio'r goron oherwydd iddi beidio â chydnabod dyfyniadau awduron eraill yn ei gwaith, oherwydd hynny coronwyd Gwenno, a ddaeth yn ail yn wreiddiol.[3]
- Y Gadair - Eurig Salisbury roedd yn fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna cwblhau Gradd MA ar gerddi cynnar Guto'r Glyn cyn dod yn gyfieithydd i Lywodraeth Cymru yn eu swyddfa yn Aberystwyth.[4]
- Y Fedal Ddrama - Ceri Elen Morris gyda drama am effaith ddinistriol anorecsia. Bu'n ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn, Llandudno. Magwyd hi yn Hen Golwyn gan astudio a byw yng Nghaerdydd.[5]
- Y Fedal Lenyddiaeth - Manon Wyn, Aelwyd Llandwrog, Arfon[6]
- Tlws y Cyfansoddwr - Glian Llwyd o Gefnddwysarn, Meirionnydd. Graddiodd mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru Bangor ac roedd ar fin dilyn cwrs perfformio ôl-radd ar y piano mewn coleg cerdd yn Llundain.[7]
- Y Fedal Gelf - Connie Ann Middleleman (?) o Ysgol y Creuddyn, Bae Penrhyn.[8]
- Medal y Dysgwr - Lauren Matthews o Gil-y-Coed, Sir Fynwy am ei gwaith ar thema Tryweryn. Roedd yn astudio Cymraeg, Daearyddiaeth ac Athroniaeth fel rhan o'i chwrs Lefel A yn Ysgol Uwchradd Cil-y-Coed.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Eisteddfod yr Urdd 2006". BBC Cymru. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Gwenno'n ennill Coron a seremoni". BBC Cymru. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Coron: Anrhydeddu enillydd". BBC Cymru. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Eurig Salisbury: Prifardd yr Urdd". BBC Cymru. 1 Mehefin 2006. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Medal Ddrama i Ceri Elen". BBC Cymru. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Theatr yn cynnig cyfle". BBC Cymru. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Glian Llwyd yn brif gerddor yr Urdd". BBC Cymru. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Lluniau Dydd Llun". BBC Cymru. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ "Medal y Dysgwyr i Lauren". BBC Cymru. 31 Mai 2006. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2023.