Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Canolfan y Mileniwm 2005

Eisteddfod yr Urdd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd 2005

Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Canolfan y Mileniwm 2005 rhwng 30 Mai - 3 Mehefin 2005. Cynhaliwyd yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd o gylch Canolfan Mileniwm Cymru fel "arbrawf" ac yn sgil ei llwyddiant penderfynwyd ei chynnal eto mewn egwyddor yn yr un lle ar gyfer Eisteddfod Bae Caerdydd, 2009.[1]

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Canolfan y Mileniwm 2005
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2005 Edit this on Wikidata
LleoliadCanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd Edit this on Wikidata
Canolfan Mileniwm Cymru, prif leoload cystadlaethau'r Ŵyl

Ildio Coron golygu

 
Bu canmol bod ystafelloedd a choridorau'r Canolfan Mileniwm Cymru yn adleisio o blant yn ymarfer, ond, nodwyd bod nifer o'r stonidau tu allan i'r Ganolfan yn dawel

Efallai mai pwynt trafod fwyaf yr Eisteddfod oedd y bu rhaid i enillydd y Goron, Llinos Dafydd o Landysul, ddychwelyd y Goron, a dderbyniodd yn ystod wythnos yr Eisteddfod wedi cwyn swyddogol am ei gwaith. Y gwyn oedd bod dyfyniad o waith awdur arall wedi'i ddefnyddio a heb gydnabod mai dyfyniad ydoedd a heb gydnabod yr awdur. Gan fod cystadleuaeth y Goron o safon uchel iawn a nifer o'r gweithiau yn deilwng o'r wobr, cynnigiwyd y Goron i Gwenno Mair Davies o Aelwyd Llansannan, Cylch Bro Aled, Sir Conwy, ddaeth yn ail.[2] Yn anhygoel, bu i Gwenno Mair Davies ennill y Goron yn Eisteddfod y flwyddyn ganlynol, a gynhaliwyd yn Rhuthun - Eisteddfod Sir Ddinbych, 2006.

Les Misérables golygu

Perfformiwyd cyfieithiad Tudur Dylan Jones o'r sioe gerdd Les Misérables yng Nghanolfan y Mileniwm ar 31 Mai, fel rhan o'r Eisteddfod.[3]

Enillwyr golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Dychwelyd i'r Bae". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  2. "Llinos yn ildio Coron yr Urdd". BBC Cymru. 15 Mehefin 2005. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  3. "Adolygiad Les Misérables". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  4. "Cadeirio Aneurin (sic.)". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  5. "Medal Ddrama i Bethan". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  6. "Medal lenyddiaeth". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  7. "Canu clodydd trydydd tlws". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  8. "Lluniau Dydd Llun". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  9. "Canlyniadau". Yr Urdd. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.
  10. "Medal y Dysgwyr, Dysgu Cymraeg mewn pedair blynedd". BBC Cymru. Cyrchwyd 5 Rhagfyr 2023.

Dolenni allanol golygu