Gweriniaeth fanana
Gweriniaeth fanana yw'r term gwleidyddol difrïol a ddefnyddir i gyfeirio at wlad dlawd a reolir gan lywodraeth filwrol awdurdodaidd lwgr. Dyfeisiwyd y term Saesneg banana republic gan yr awdur Americanaidd O. Henry. Roedd 'gweriniaeth' yn gyfystyr â llywodraeth unbenaethol i'r awdur ac mae'r gair 'banana' yn cyfeirio at or-ddibyniaeth gwledydd difreintiedig o'r math ar economi seiliedig ar dyfu cnydau sylfaenol i'w hallforio i wledydd mwy cyfoethog yn y Gorllewin. Fel rheol cysylltir y term â gwledydd tlawd Canolbarth a De America, ond gall gael ei gymhwyso at unrhyw wladwriaeth sydd â llywodraeth lwgr a gwahaniaethau mawr rhwng safon byw yr ychydig freintiedig a'r mwyafrif tlawd.
Mae'r ffilm Bananas gan Woody Allen yn cael ei lleoli mewn gweriniaeth fanana ystrydebol.