Huw Dylan Owen

cerddor gwerin a bardd

Sesiynwr gwerin a fu'n aelod o'r grwpiau Defaid a Gwerinos a bardd yw Huw Dylan Owen. Cyhoeddodd albwm solo yn 2021.[1] Roedd yn un o sylfaenwyr Sesiwn Fawr Dolgellau a Gŵyl Tyrfe Tawe yn Abertawe, a hefyd yn un o gyfarwyddwyr gwreiddiol y Ganolfan Werin Genedlaethol, Tŷ Siamas, Dolgellau.[angen ffynhonnell]

Huw Dylan Owen
Man preswylDolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaeththerapydd galwedigaethol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amSesiwn yng Nghymru - Cymry, Cwrw a Chân Edit this on Wikidata

Cyhoeddodd dau lyfr: Meini Meirionnydd, sef llyfr am feini hirion ac archeoleg Meirionnydd, a Sesiwn yng Nghymru, llyfr am fyd y sesiwn werin. Datgelwyd mai Huw Dylan Owen oedd yn ail am y gadair genedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn 2019 gyda awdl “na welwyd ei thebyg” o'r blaen yn ôl y feirniadaeth.[angen ffynhonnell] Roedd yr awdl ar ffurf Llyfr Ryseitiau, yn cynnig awgrymiadau am sut i chwalu ffiniau drwy fwydydd traws-ddiwylliannol.

Yn therapydd galwedigaethol, cyhoeddodd ymchwil ar yr iaith Gymraeg yn y gwasanaeth iechyd a gofal, ac yn sgil hynny fe'i benodwyd yn aelod o banel cynghori Mwy Na Geiriau Llywodraeth Cymru. Ysgrifennodd ar heriau yn y maes gofal yn yn 2023.

Cyfeiriadau golygu

  1. "O Feirion i Dreforys". bandcamp. Cyrchwyd 9 Mawrth 2024.

Dolen allanol golygu