Cilmeri (grŵp gwerin)

grŵp gwerin o Gymru

Grŵp gwerin Cymraeg dylanwadol o ddiwedd y 1970au a chychwyn yr 1980au, o Wynedd, oedd Cilmeri.

Y grwp Cilmeri ym mhentref Cilmeri, oddeutu 1981.
Clawr cefn albym cyntaf y grwp.
Y grŵp gwerin 'Cilmeri' yn perfformio yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1979. Daethant yn ail i'r grwp Pererin a gannodd 'Ni Welaf yr Haul'. Yn y llun: Ywain Myfyr, Elwyn Rowlands, Robin Llwyd ab Owain, Huw Roberts a Tudur Huws Jones.
Erthygl am y grŵp gwerin yw hon. Am y fan lle lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd, gweler Cilmeri.

Recordiwyd dwy record hir (33rpm) gan Gwmni Recordiau Sain SAIN768N LPW296 a C768N yn 1980[1]. Yna, "Henffych Well!" yn ddiweddarach. Yn ôl 'World Music: The Rough Guide' (gan Simon Broughton a Mark Ellingham)[2]:Cilmeri: Sadly defunct Gwynedd band which was the first to put a harder, Irish-style edge on Welsh music. Bu ar daith gyda Dafydd Iwan o amgylch Cymru gan gynnwys theatrau megis Theatr Harlech.

Yr Aelodau golygu

Yn ddiweddarach ymunodd Dan Morris (llais, crwth, fiola a neola) ac Iwan Roberts, gynt o Mynediad am Ddim (mandolin, mandola, bwswci, gitar).

Cysylltiadau â grwpiau cerddorol eraill golygu

Aeth Tudur Huws Jones yn ei flaen i ganu gyda 4 yn y Bar, y Cynghorwyr, Gwerinos a rhyddhau albwm o ganeuon a cherddoriaeth unigol a enwyd Dal i Drio.

  • Bu Huw Roberts yn aelod o'r grŵp 4 yn y Bar.
  • Bu Ywain Myfyr yn aelod o Gwerinos.
  • Bu Dan Morris yn aelod o Gwerinos a Bandarall.
  • Bu Iwan Roberts yn aelod o Mynediad am Ddim cyn ymuno â Cilmeri, a gyda 4 yn y Bar wedi hynny.

Adolygiad cyfoes golygu

Yn y gyfrol Sesiwn yng Nghymru gan Huw Dylan Owen[3] ceir pennod a enwir Cregennan sydd yn adolygiad llawn ac yn feirniadaeth lawn o'r albwm gyntaf gan Cilmeri. Daw'r adolygiad i derfyn gyda'r geiriau "[ni] fydd albwm cyffelyb i'r un cyntaf hwnnw, Cilmeri, fyth i'w gael yn y Gymraeg. Albwm o'i gyfnod. Albwm gwerin Cymraeg a Chymreig o'r iawn ryw."

Cyfeiriadau golygu

  1. [1]
  2. [2]
  3. H.D. Owen, Sesiwn yng Nghymru: Cymry, Cwrw a Chân (Y Lolfa, 2015)