Gwerinwraig gyda Het Wellt Felen
Paentiad olew o 1890 gan yr arlunydd Iseldiraidd Vincent van Gogh yw Gwerinwraig gyda Het Wellt Felen (Iseldireg: Boerenmeisje met gele strohoed) neu Gwerinwraig yn erbyn Cefndir Gwenith.
Enghraifft o'r canlynol | paentiad |
---|---|
Crëwr | Vincent van Gogh |
Deunydd | paent olew |
Dechrau/Sefydlu | Mehefin 1890 |
Genre | portread |
Perchennog | Steve Wynn, Steven A. Cohen |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Prynwyd y paentiad gan Stephen A. Wynn, perchennog casino yn Las Vegas, yn y 1990au. Yn 2005 cafodd y paentiad ei werthu, gydag Ymdrochwyr (1902) gan Paul Gauguin, am ryw US$110 miliwn i'r buddsoddwr Americanaidd Steven A. Cohen.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Carol Vogel, "A Gauguin and a van Gogh Change Hands", The New York Times (7 Hydref 2005). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 17 Gorffennaf 2021.