Gwern (mytholeg)
Mab Matholwch, brenin Iwerddon a Branwen, ferch Llŷr a chwaer Bendigeidfran yn chwedl Branwen ferch Llŷr, yr Ail o Bedair Cainc y Mabinogi, yw Gwern.
Yn y chwedl daw Matholwch, sydd wedi dod i ofyn am chwaer Bendigeidfran, Branwen, yn wraig iddo i lys Bendigeidfran yn Harlech. Cytunir i'r briodas, ond yn ystod y wledd i'w dathlu mae Efnysien, hanner brawd Branwen, yn cyrraedd y llys. Mae'n ddig na ofynwyd am ei ganiatâd ef cyn trefnu'r briodas, ac mae'n anffurfio meirch Matholwch fel dial.
Yn Iwerddon mae Branwen yn byw'n gytun gyda Matholwch am gyfnod, a genir mab, Gwern, iddynt, ond yna mae Matholwch yn cofio'r hyn a wnaeth Efnysien i'w geffylau ac yn dial am ei sarhad ar Franwen. Caiff ei gyrru i weithio yn y gegin am dair blynedd, ond mae'n dofi drudwy ac yn ei yrru draw i Brydain gyda neges i Fendigeidfran yn dweud sut y mae'n cael ei thrin. Mae Bendigeidfran a'i fyddin yn croesi i Iwerddon, y fyddin mewn llongau ond Bendigeidfran yn cerdded trwy'r môr, gan ei fod yn gawr na all yr un llong ei gario.
Cynhelir cyfarfod i drafod amodau heddwch, ond mae Efnysien yn rhoi diwedd ar hyn trwy afael yn Gwern, mab Branwen a Matholwch, a'i daflu i'r tân. Rhyfel yw'r canlyniad, a lleddir llawer o filwyr ar y ddwy ochr.
Cyfeiriadau
golygu- Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; sawl argraffiad newydd ers hynny)