Gwersyll difa

Gwersyll difa yw'r term a ddefnyddir am wersyll oedd wedi ei fwriadu i ladd cynifer ag oedd modd o garcharorion. Mae'n whanol i wersyll crynhoi arferol, er y gellir ei ystyried fel math arbennig o wersyll crynhoi. Adeiladwyd nifer o wersylloedd difa gan lywodraeth Natsïaidd yr Almaen yn nghyfnod yr Ail Ryfel Byd. Iddewon oedd y mwyafrif o'r rhai a laddwyd yn y gwersylloedd hyn, ond lladdwyd niferoedd sylweddol o nifer o grwpiau eraill hefyd, yn cynnwys y Roma, carcharorion rhyfel o'r Undeb Sofietaidd, pobl hoyw, pobl anabl, Tystion Jehovah ac eraill.

Bones of anti-Nazi German women still are in the crematoriums in the German concentration camp at Weimar, Germany.jpg
Data cyffredinol
Mathgwersyll crynhoi Natsïaidd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Auschwitz-Birkenau

Nid oes cytundeb hollol pa wersylloedd y gellir eu hystyried yn wersylloedd difa a pha rai a ystyrir yn wersylloedd crynhoi.

Gweler hefydGolygu