Gwesty'r Hilton, Caerdydd

Gwesty Hilton yng nghanol dinas Caerdydd yw Hilton Caerdydd [1]. Mae wedi ei leoli ychydig i'r de o Neuadd y Ddinas, Caerdydd, ac yn edrych dros Gastell Caerdydd.

Hilton Caerdydd
Mathgwesty Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogolAwst 1999 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.483027°N 3.178568°W, 51.48307°N 3.17853°W Edit this on Wikidata
Cod postCF10 3HH Edit this on Wikidata
Rheolir ganHilton Hotels & Resorts Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethHilton Worldwide Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Adeiladwyd yr adeilad yn wreiddiol yn 1947 fel pencadlys rhanbarthol Cwmni Yswiriant Prudential, gyda seilwaith o ffrâm dur wedi ei wynebu gyda charreg Portland.[2] Ar ôl i'r cwmni symud i swyddfa newydd yn 1994, fe roddwyd yr adeilad ar werth, ac fe brynwyd y les gan Westai'r Hilton yn 1997.[2] Fe adnewyddwyd yr adeilad gan benseiri Powell Dobson, gan gadw rhan helaeth o wyneb cerrig gwreiddiol a chodi estyniad dau lawr er mwyn darparu 197 o stafelloedd gwely i gyd ynghyd â Llety'r Arlywydd a'r Lolfa Uwchraddol.[3] Mae yna atriwm gyda tho gwydr sy'n ganolbwynt o'r tu allan a'r tu fewn, yn rhoi mynediad i ystafell ddawnsio oedd y mwyaf yn y ddinas, ar y pryd.[3] Agorwyd y gwesty newydd yn 1999.[2]

Presennol golygu

Fe'i disgrifiwyd y gwesty pedwar seren gan un adolygydd fel y "gwesty mwyaf glitzy yng Nghaerdydd",[4] er agorwyd Gwesty a Sba Dewi Sant yn 2000, yr unig westy pum seren yng Nghymru.[5][6] Mae'r gwesty yn cynnwys y bwyty Razzi a gan ei fod mor agos i Stadiwm y Mileniwm, mae wedi bod yn llety i rai o'r timau sydd wedi chwarae yno, gan gynnwys tîm rygbi Seland Newydd yn 2007.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Nevez, Catherine Le; Parker, Mike; Whitfield, Paul (28 April 2009). The Rough Guide to Wales. Rough Guides. t. 111. ISBN 978-1-84836-050-1. Cyrchwyd 25 September 2011.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Hilton Hotel, Cardiff, Wales". Hotel Designs. 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-13. Cyrchwyd 7 June 2014.
  3. 3.0 3.1 "Hilton Hotel, Cardiff, Wales". Powell Dobson. 1999. Cyrchwyd 7 June 2014.
  4. Else, David (2007). Great Britain. Lonely Planet. t. 653. ISBN 978-1-74104-565-9. Cyrchwyd 25 September 2011.
  5. 1999 - the year of Cool Cymru BBC Wales News, 25 December 1999.
  6. Automobile Association rating
  7. Paul, Gregor (15 March 2010). Black Obsession: The All Blacks' Quest for World Cup Success. Exisle Publishing. t. 46. ISBN 978-1-877437-31-1. Cyrchwyd 25 September 2011.

Dolenni allanol golygu