Castell Caerdydd

castell yng Nghaerdydd

Sefydlwyd Castell Caerdydd ar safle ger canol dinas Caerdydd heddiw gan y Normaniaid yn 1091, ar safle caer Rufeinig. Gwelir gweddillion y gaer honno ar y safle hyd heddiw. Ychwanegwyd castell ffug gan Ardalydd Bute yn y 19g.

Castell Caerdydd
Mathcastell, safle archaeolegol, local authority museum Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1080s (wedi 1081) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliadcanol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr11.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.482309°N 3.181106°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
PerchnogaethCyngor Caerdydd Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwGM171 Edit this on Wikidata

Caer Rufeinig Caerdydd

golygu

Mae rhan helaeth o furiau'r Castell mwnt a beili Normanaidd wedi'u codi ar ben cwrs y muriau Rhufeinig gwreiddiol. Mewn stafelloedd arddangosfa dan y muriau presennol gellir gweld darnau o'r muriau Rhufeinig. Ymddengys i'r gaer gael ei chodi ar safle caer gynharach a godwyd tua diwedd y ganrif gyntaf OC. Adeiladwyd yr ail gaer o gerrig tywodfaen coch, efallai fel amddiffyniad yn erbyn ymosodiadau o'r môr, tua'r flwyddyn 400 OC.

Y castell Normanaidd

golygu
 
Gorthwr Normanaidd Castell Caerdydd

Un o breswylwyr enwocaf y castell oedd Robert Curthose, a garcharwyd yno gan ei frawd ifancach, Brenin Harri I Lloegr, o 1106 tan 1134. Yn 1158, y castell oedd lleoliad herwgipiad beiddgar gan Ifor Bach. Daeth Owain Glyn Dŵr i reoli'r castell yn 1404, gan ei adael i'r Cymry tan i Siaspar Tudur, ewythr Harri Tudur, ei feddiannu yn 1488 fel diolch iddo am ei ran yn ymgyrchoedd ei nai.

Adeiladwaith diweddarach

golygu

Yn ystod y 19g, codwyd castell hynafol ffug gan y pensaer William Burges, a oedd yn gweithio i Ardalydd Bute. Fe'i cynlluniwyd i edrych fel cartref a fyddai'n gweddu i un o straeon y Tylwyth Teg gyda nifer o gerfluniau cain a lluniau i'w addurno. Yn ddiweddarach fe'i rhoddwyd i ddinas Caerdydd gan deulu'r Bute. Mae bellach yn atyniad twristaidd poblogaidd ac mae'n gartref i amgueddfa lleng-filwrol, yn ogystal â gweddillion yr hen gastell.

Mynediad a chyfleusterau

golygu

Lleolir y castell yng nghanol Caerdydd a saif wrth ymyl Parc Bute. Lleolir canolfan ddinesig Parc Cathays gerllaw hefyd, ynghyd â'r prif strydoedd siopa.

Mae'n gartref i ddawns haf Prifysgol Caerdydd bob blwyddyn a chynhelir Mardi Gras mwyaf Cymru ar gaeau'r castell bob mis Awst.

Gyda lle i dros ddeng mil o bobl ymgynull, manteisiwyd ar hyn i gynnal nifer o gyngherddau roc a pherfformiadau byw, gan gynnwys un gan y grŵp Stereophonics ym mis Mehefin 1998.

Dolenni allanol

golygu