Gwilym Ceri Jones
gweinidog (MC) a bardd
Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a bardd oedd Gwilym Ceri Jones (26 Mehefin 1897 – 9 Ionawr 1963).
Gwilym Ceri Jones | |
---|---|
Ganwyd | 26 Mehefin 1897 |
Bu farw | 9 Ionawr 1963 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, bardd |
Fe'i ganwyd yn Newgate, plwyf Llangynllo, Ceredigion, yn fab i William ac Ellen Jones. Addysgwyd ef yn ysgol Rhydlewis, ysgol ramadeg Llandysul, a Choleg Diwinyddol Aberystwyth. Ar ôl ei ordeinio yn 1922, roedd yn weinidog yng Nghwm-parc (1922-28), Minffordd (1928-32), Llanwrtyd (1932-36), Port Talbot (1936-47) a Clydach-ar-Dawe (1947-58). Bu farw yn Llansamlet.
Fel bardd, roedd yn arbenigo yn y mesurau caeth. Enillodd gwobrwyon yr Eisteddfod Genedlaethol ar yr englyn a'r rhieingerdd, ac enillodd y gadair ym Mhwllheli, 1955, am ei awdl Gwrtheyrn.
Cyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth ar ôl ei farw dan y teitl Diliau'r Dolydd (1964).