Minffordd (Penrhyndeudraeth)

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Penrhyndeudraeth, Gwynedd, Cymru, yw Minffordd[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar briffordd yr A487 rhwng Porthmadog a Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd. Saif ar ochr ddwyreiniol y Cob, sy'n ei gysylltu a Phorthmadog. Mae pentref Portmeirion ychydig i'r de-orllewin.

Minffordd
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9267°N 4.0811°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH601386 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am y pentrefan ger Bangor, gweler Minffordd (Pentir).

Datblygodd y pentref fel man i groesi'r Traeth Mawr cyn adeiladu'r cob; gellid croesi ar droed pan oedd y llanw i lawr. Mae Rheilffordd y Cambrian a Rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg trwy'r pentref, ac yng ngorsaf Minffordd y gellir newid o un i'r llall. Yn 1812 daeth y pentref i sylw cenedlaethol pan lofruddiwyd Mary Jones, morwyn yn fferm Penrhyn Isaf, gan Thomas Edwards (Yr Hwntw Mawr).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Gorsaf Minffordd

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolen allanol golygu